Crynodeb o’r cwrs

Mae’r Llywodraeth Lefel UG / Safon Uwch a Gwleidyddiaeth yn galluogi myfyrwyr i ddatblygu eu sgiliau meddwl beirniadol a gwella eu gallu i ddehongli, gwerthuso a rhoi sylwadau ar natur gwleidyddiaeth. Mae’n annog dysgwyr i ddatblygu hyder yng ngwleidyddiaeth, ac agwedd gadarnhaol tuag ati, ac i gydnabod ei phwysigrwydd yn eu bywydau eu hunain ac i gymdeithas. Mae hwn wedi’i leoli yn yr Academi Chweched Dosbarth (SFA).

Mae’r fanyleb yn annog dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o strwythurau a materion gwleidyddol cyfoes yng Nghymru a’r Deyrnas Unedig (DU), gwybodaeth a dealltwriaeth o strwythurau a materion gwleidyddol byd-eang ehangach, deall y dylanwadau a’r diddordebau sy’n cael effaith ar benderfyniadau yn y llywodraeth a gwleidyddiaeth, deall hawliau a chyfrifoldebau unigolion a grwpiau, ymwybyddiaeth o natur newidiol gwleidyddiaeth a’r perthnasoedd rhwng syniadau, sefydliadau a phrosesau gwleidyddol a’r gallu i ddadansoddi, dehongli a gwerthuso gwybodaeth wleidyddol yn feirniadol i ffurfio dadleuon a llunio barn.

Ymgeisio am Lefelau UG neu Lefel A? Cliciwch ‘Gwnech Gais Nawr’ ar unrhyw UN o’r pynciau y mae gennych ddiddordeb mewn eu hastudio. Llenwch y ffurflen gais ar-lein, lle gofynnir i chi nodi’ch dau ddewis arall. Yna archebwch apwyntiad Cyfweliad i gwrdd â’r tiwtoriaid a thrafod y dewisiadau sydd orau gennych.