Mynediad i Ddiploma AU – Gofal Iechyd (Amser Llawn)

Crynodeb o’r cwrs

Nod y cwrs Mynediad i Ofal Iechyd hwn yw paratoi dysgwyr i astudio Gofal Iechyd mewn Addysg Uwch. Mae’n rhoi i chi yr wybodaeth, y ddealltwriaeth a’r sgiliau sydd eu hangen i symud ymlaen i astudiaethau lefel uwch neu i wella eich potensial o ran cyflogaeth.

  • Gofynion Mynediad

    Gall dysgwyr nad oes ganddynt unrhyw gymwysterau ffurfiol wneud cais; fodd bynnag, bydd angen asesiad sgiliau a chyfweliad i bennu addasrwydd ar gyfer y cwrs. Ni fydd angen i ddysgwyr â Mathemateg a Saesneg Iaith TGAU gradd C neu uwch ymgymryd â'r asesiad sgiliau ond byddant yn cael cyfweliad.

    Dylai fod gan ymgeiswyr agwedd gadarnhaol a dylent allu ymdopi'n dda â heriau a bod yn frwdfrydig, yn ddibynadwy ac yn aeddfed.

    Dylai fod gan ymgeiswyr agwedd gadarnhaol a dylent allu ymdopi'n dda â heriau a bod yn frwdfrydig, yn ddibynadwy ac yn aeddfed a thystiolaeth o brofiad bywyd.

  • Rhagolygon Gyrfa

    Bydd cwblhau'r cymhwyster yn llwyddiannus yn paratoi myfyrwyr ar gyfer astudiaethau Addysg Uwch mewn: nyrsio oedolion, nyrsio pediatrig, nyrsio iechyd meddwl, bydwreigiaeth, clywedeg, gwyddor barafeddygol, therapi iaith a lleferydd, ymarferydd adran llawfeddygaeth a gwaith cymdeithasol.

  • Manylion y cwrs

    • Anatomeg a Ffisioleg
    • Gofal ac Iechyd
    • Seicoleg
    • Cymdeithaseg
    • Prosiect Ymchwiliol
    • Sgiliau cyfathrebu
    • Cyflwyniadau a Lluniau
    • Rhifedd

  • Asesiad

    Bydd dysgu ac addysgu yn digwydd drwy broses o ddarlithoedd, tiwtorialau, seminarau, trafodaethau, arddangosiadau, dysgu cyfunol a gwaith grwp. Caiff dysgwyr eu hasesu gan ddefnyddio amrywiaeth o strategaethau asesu, gan gynnwys cyflwyniad, adroddiadau, traethodau, a phrofion dosbarth.

  • Costau Ychwanegol

    Bydd costau ychwanegol cysylltiedig â'r cwrs.

Dull Astudio

Amser Llawn

Lleoliad

Coleg Bannau Brycheiniog - 01686 614400

Coleg Afan - 01639 648200

Coleg Y Drenewydd - 01686 614200

Coleg Pontardawe - 01639 648100

Hyd y cwrs

1 year