Crynodeb o’r cwrs

Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn cwmpasu’r sgiliau a’r wybodaeth sylfaenol sy’n gyffredin i bob ymarfer cerbydau modur. Nod y cwrs yw archwilio’r holl systemau mecanyddol a thrydanol, sy’n nodweddiadol o gerbydau ysgafn. Cwblheir y cwrs trwy ddau arholiad ar-lein a chyfres o aseiniadau a thasgau ymarferol a gyflawnir yn ein cyfleuster gweithdy rhagorol.