Crynodeb o’r cwrs
Drwy ymchwil annibynnol a phroses werthuso, byddwch yn archwilio cysyniadau damcaniaethol rheoli a datblygu polisïau o fewn y proffesiwn lletygarwch a chelfyddydau coginio.
Bydd y rhaglen hon yn addas i fyfyrwyr sy’n dymuno datblygu ystod eang o sgiliau lletygarwch, digwyddiadau a busnes. Bydd yn rhoi’r wybodaeth a’r mewnwelediad angenrheidiol i chi i ddatblygu dealltwriaeth o reoli sefydliadau lletygarwch yn fwy effeithiol. Partneriaeth: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant.
Mae meini prawf mynediad yn manylu ar gynnig nodweddiadol ond mae'r Coleg yn ystyried pob cais ar sail unigol sy'n golygu y gallem wneud cynigion yn seiliedig ar gymwysterau, proffil personol a phrofiad. Os oes gennych ymholiadau ynghylch eich cynnig, cysylltwch â'n Tîm Derbyniadau.
Cynnig nodweddiadol:
1 Lefel A Gradd C neu uwch, neu 2 Lefel A Gradd E neu uwch, neu Broffil PP/PPP o Gymhwyster BTEC Lefel 3 a phum TGAU Gradd C neu uwch, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol).
Gallwch symud ymlaen i ddilyn rhaglen ôl-radd sy’n gysylltiedig â lletygarwch. Mae gan raddedigion gyfleoedd cyflogaeth ym meysydd lletygarwch ac arlwyo, er enghraifft: cynllunio priodasau a gwleddoedd, rheolwr bwyd a diod, rheolwr ty bwyta, lletygarwch corfforaethol a rheolwr cynadleddau a gwleddoedd.
Mae modiwlau yn cynnwys: Rheoli Lletygarwch yn Strategol, Gastronomeg Gyfoes, Rheoli'r Fasnsch Drwyddedig, Gweithrediadau Bwytai, Technegau Cegin Broffesiynol, Rheoli Gwleddau a Chynadleddau
Dulliau Addysgu a Dysgu. Fel arfer bydd y rhaglen hon yn cynnwys darlithoedd a sesiynau tiwtorial. Fel arfer bydd raid i chi gwblhau portffolios, cyflwyniadau a thasgau ysgrifenedig wrth i chi symud ymlaen drwy’r rhaglen.