Crynodeb o’r cwrs

Y Lefel UG / Lefel A mewn Astudiaethau Crefyddol yw’r astudiaeth gymdeithasol o Grefydd ac arferion Crefyddol, a leolir yn yr Academi Chweched Dosbarth (SFA).

Mae’n canolbwyntio ar faterion cyfoes ac yn eich annog i ymgysylltu’n feirniadol. Mae’r cwrs yn ymdrin â thri phwnc, Cyflwyniad i Astudio Crefydd (Bwdhaeth), Cyflwyniad i Grefydd a Moeseg ac Athroniaeth Crefydd. Mae’r tri phwnc yn cael eu cario drosodd i’r ail flwyddyn sy’n ymdrin â gwahanol bynciau ac yn gwneud cysylltiadau synoptig â gwaith UG.

Ymgeisio am Lefelau UG neu Lefel A? Cliciwch ‘Gwnech Gais Nawr’ ar unrhyw UN o’r pynciau y mae gennych ddiddordeb mewn eu hastudio. Llenwch y ffurflen gais ar-lein, lle gofynnir i chi nodi’ch dau ddewis arall. Yna archebwch apwyntiad Cyfweliad i gwrdd â’r tiwtoriaid a thrafod y dewisiadau sydd orau gennych.