Crynodeb o’r cwrs

Mae’r Lefel UG / Lefel A mewn Celf Gain yn rhaglen gyffrous, eang a dwys, wedi’i lleoli yn yr Academi Chweched Dosbarth (SFA) ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno archwilio ac arbrofi mewn Celf Gain.

Mae’r cwrs yn gyfle i archwilio cyfryngau, deunyddiau a thechnegau newydd mae disgyblaethau allweddol yn cynnwys lluniadu, paentio, gwneud printiau a chyfryngau cymysg. Bydd gofyn i chi ddadansoddi’ch gwaith chi a gwaith eraill a ddewiswyd o’r byd Celf Gyfoes a Hanesyddol.

Byddwch yn dysgu mwy o sgiliau dehongli a gwerthuso trwy ymgolli mewn prosiectau sy’n dod yn fwyfwy dan arweiniad myfyrwyr wrth i chi ddewis eich themâu a’ch meysydd i’w hymchwilio. Mae Celf Gain yn elfen arbenigol bwysig ar gyfer gyrfa Celf a Dylunio ehangach.

Ymgeisio am Lefelau UG neu Lefel A? Cliciwch ‘Gwnech Gais Nawr’ ar unrhyw UN o’r pynciau y mae gennych ddiddordeb mewn eu hastudio. Llenwch y ffurflen gais ar-lein, lle gofynnir i chi nodi’ch dau ddewis arall. Yna archebwch apwyntiad Cyfweliad i gwrdd â’r tiwtoriaid a thrafod y dewisiadau sydd orau gennych.