Crynodeb o’r cwrs

Mae’r Cerddoriaeth Lefel UG / Lefel A yn gwrs Addysg Bellach Llawn Amser yn yr Academi Chweched Dosbarth (SFA), wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn datblygu eu sgiliau cerddorol neu sy’n dymuno dod yn gerddor proffesiynol.

Mae cerddoriaeth yn bwnc uchel ei barch a gellir ei astudio ochr yn ochr â’r mwyafrif o gyfuniadau pwnc. Mae gan y cwrs 3 uned ym mhob blwyddyn. Y rhain yw: Perfformio, Cyfansoddi a Gwerthuso. Byddwch yn astudio ystod o gerddoriaeth o’r Cyfnod Clasurol i’r Ugeinfed / Unfed Ganrif ar Hugain yn ogystal â naill ai Theatr Gerdd, Roc a Phop neu Jazz. Disgwylir i chi gyfansoddi dau gyfansoddiad bob blwyddyn.

Bydd gennych hawl i dderbyn gwers unigol wythnosol ar yr offeryn / llais o’ch dewis a ddarperir gan y Coleg fel rhan o’r Academi Gerdd. Disgwylir ymrwymiad i grŵp cerddoriaeth allgyrsiol priodol ac mae gallu perfformio o safon Gradd 5 yn ofynnol erbyn Tymor 2 y flwyddyn academaidd.

Ymgeisio am Lefelau UG neu Lefel A? Cliciwch ‘Gwnech Gais Nawr’ ar unrhyw UN o’r pynciau y mae gennych ddiddordeb mewn eu hastudio. Llenwch y ffurflen gais ar-lein, lle gofynnir i chi nodi’ch dau ddewis arall. Yna archebwch apwyntiad Cyfweliad i gwrdd â’r tiwtoriaid a thrafod y dewisiadau sydd orau gennych.