Crynodeb o’r cwrs

Mae’r Gymdeithaseg Lefel UG / Safon Uwch yn gwrs amser llawn wedi’i leoli yn yr Academi Chweched Dosbarth (SFA). Mae cymdeithaseg yn dod yn fwy a mwy poblogaidd ymhlith myfyrwyr sydd eisiau gwell dealltwriaeth o’r byd cymdeithasol ac mae’n cwmpasu pynciau pwysig ond llai poblogaidd fel athroniaeth a moeseg.

Mae’n gwrs ar gyfer myfyrwyr sy’n mwynhau gweithio gydag eraill ac sy’n mwynhau dadleuon bywiog, gwybodus ar wahanol bynciau cymdeithasol. Bydd Cymdeithaseg Lefel A yn rhoi gwell dealltwriaeth i chi o gymdeithas fel grym. Mae’r cwrs yn cynnwys pedair uned gan gynnwys Archwilio Pwer a Rheolaeth, Anghydraddoldeb Cymdeithasol a Dulliau Cymhwysol Ymchwiliad Cymdeithasol.

Ymgeisio am Lefelau UG neu Lefel A? Cliciwch ‘Gwnech Gais Nawr’ ar unrhyw UN o’r pynciau y mae gennych ddiddordeb mewn eu hastudio. Llenwch y ffurflen gais ar-lein, lle gofynnir i chi nodi’ch dau ddewis arall. Yna archebwch apwyntiad Cyfweliad i gwrdd â’r tiwtoriaid a thrafod y dewisiadau sydd orau gennych.