Crynodeb o’r cwrs

Mae’r Ffrangeg Lefel UG / Safon Uwch yn gwrs Addysg Bellach Llawn Amser wedi’i leoli yn yr Academi Chweched Dosbarth (SFA). Mae hwn wedi’i gynllunio i ddatblygu eich sgiliau iaith Ffrangeg. Byddwch yn datblygu sgiliau cyfathrebu hyderus, effeithiol yn Ffrangeg a dealltwriaeth drylwyr o ddiwylliant gwledydd a chymunedau lle siaredir Ffrangeg.

Bydd y cwrs yn meithrin diddordeb mewn dysgu iaith, a brwdfrydedd drosto, ac yn annog myfyrwyr i ystyried eu hastudiaeth o’r iaith mewn cyd-destun ehangach. Y themâu dan sylw yw, bod yn berson ifanc mewn cymdeithas Ffrangeg ei hiaith a deall y byd Ffrangeg ei hiaith, amrywiaeth a gwahaniaeth a Ffrainc rhwng 1940 a 1950.

Ymgeisio am Lefelau UG neu Lefel A? Cliciwch ‘Gwnech Gais Nawr’ ar unrhyw UN o’r pynciau y mae gennych ddiddordeb mewn eu hastudio. Llenwch y ffurflen gais ar-lein, lle gofynnir i chi nodi’ch dau ddewis arall. Yna archebwch apwyntiad Cyfweliad i gwrdd â’r tiwtoriaid a thrafod y dewisiadau sydd orau gennych.