Crynodeb o’r cwrs

Mae’r cwrs Llenyddiaeth Saesneg Lefel UG / Safon Uwch yn gwrs Addysg Bellach Llawn Amser yn yr Academi Chweched Dosbarth (SFA). Fe’i cynlluniwyd ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn datblygu eu hastudiaethau Saesneg.

Fe’i rhennir yn bum uned, dwy yn UG a thair yn A2 a’i asesu trwy arholiadau allanol ac un astudiaeth ryddiaith.

Byddwch yn archwilio barddoniaeth, drama a thestunau rhyddiaith yn arddulliadol ac yn hanesyddol wrth ddatblygu ansawdd eich ysgrifennu academaidd manwl eich hun. Disgwylir darllen ymreolaethol ac ymchwil academaidd berthnasol gennych chi ar y lefel hon hefyd.

Ymgeisio am Lefelau UG neu Lefel A? Cliciwch ‘Gwnech Gais Nawr’ ar unrhyw UN o’r pynciau y mae gennych ddiddordeb mewn eu hastudio. Llenwch y ffurflen gais ar-lein, lle gofynnir i chi nodi’ch dau ddewis arall. Yna archebwch apwyntiad Cyfweliad i gwrdd â’r tiwtoriaid a thrafod y dewisiadau sydd orau gennych.