Crynodeb o’r cwrs

Mae’r Mathemateg Bellach Lefel UG / Safon Uwch yn gwrs Addysg Bellach Amser Llawn yn yr Academi Chweched Dosbarth (SFA). Fe’i cynlluniwyd ar gyfer mathemategwyr dawnus a’r rhai sy’n dymuno dilyn gyrfa mewn mathemateg neu feysydd tebyg.

Mae opsiwn i fodiwlau ychwanegol mewn mathemateg, gan ganiatáu mwy o ddyfnder astudio, gan roi sylfaen wybodaeth ehangach i fyfyrwyr. Byddai hyn yn caniatáu i’r myfyriwr gyflawni ail AS neu Safon Uwch mewn mathemateg.

Mae hyn yn arbennig o ddefnyddiol i fyfyrwyr sy’n dymuno dilyn gradd mewn Mathemateg neu Beirianneg. Rhaid astudio Mathemateg Bellach yn ychwanegol at fathemateg UG / Safon Uwch. Mae’r lefel UG mewn Mathemateg Bellach werth 40 y cant o’r Safon Uwch gyffredinol.

Ymgeisio am Lefelau UG neu Lefel A? Cliciwch ‘Gwnech Gais Nawr’ ar unrhyw UN o’r pynciau y mae gennych ddiddordeb mewn eu hastudio. Llenwch y ffurflen gais ar-lein, lle gofynnir i chi nodi’ch dau ddewis arall. Yna archebwch apwyntiad Cyfweliad i gwrdd â’r tiwtoriaid a thrafod y dewisiadau sydd orau gennych.