Crynodeb o’r cwrs

Bydd y cwrs Astudiaethau Ffilm Lefel UG / Safon Uwch sydd wedi’i leoli yn yr Academi Chweched Dosbarth (SFA) yn dod â phwnc sinema yn fyw ac yn darparu mewnwelediad hynod ddiddorol a manwl i fyd ffilmiau a ffilmio.

Byddwch yn ymchwilio i Ffilm fel ffurf ar gelfyddyd, gan edrych ar y ffordd y caiff ystyr ei greu gan wneuthurwyr ffilm trwy dechnegau fel sain, gwisgoedd, goleuo a gwaith camera. Byddwch yn astudio damcaniaethau naratif a dulliau adrodd stori, gan edrych ar gymeriadau a phwyntiau plot yn ogystal â genres gwahanol a sut rydym yn rhyngweithio â nhw. Byddwch hefyd yn edrych ar newidiadau cymdeithasol a diwylliannol o fewn diwydiannau ffilm America a Phrydain. Fel rhan o’ch prosiect terfynol, byddech chi’n defnyddio’r hyn rydych chi wedi’i ddysgu i greu darn o ffilm fer neu sgript ffilm mewn genre o’ch dewis.

Ymgeisio am Lefelau UG neu Lefel A? Cliciwch ‘Gwnech Gais Nawr’ ar unrhyw UN o’r pynciau y mae gennych ddiddordeb mewn eu hastudio. Llenwch y ffurflen gais ar-lein, lle gofynnir i chi nodi’ch dau ddewis arall. Yna archebwch apwyntiad Cyfweliad i gwrdd â’r tiwtoriaid a thrafod y dewisiadau sydd orau gennych.