Mae’r cwrs Sbaeneg Lefel UG / Lefel A yn gwrs Addysg Bellach Llawn Amser yn yr Academi Chweched Dosbarth (SFA). Fe’i cynlluniwyd ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn ieithoedd a datblygu eu sgiliau Sbaeneg.
Byddwch yn datblygu sgiliau cyfathrebu hyderus, effeithiol yn Sbaeneg a dealltwriaeth drylwyr o ddiwylliant gwledydd a chymunedau lle siaredir Sbaeneg.
Bydd y cwrs yn meithrin diddordeb mewn dysgu iaith, a brwdfrydedd drosto, ac yn annog myfyrwyr i ystyried eu hastudiaeth o’r iaith mewn cyd-destun ehangach.
Mae’r themâu sy’n ymdrin â’r cwrs yn cynnwys bod yn berson ifanc mewn cymdeithas sy’n siarad Sbaeneg a deall y byd Sbaeneg ei iaith, yn ogystal ag Amrywiaeth a Gwahaniaeth a The Two Spain’s 1936 ymlaen.
Ymgeisio am Lefelau UG neu Lefel A? Cliciwch ‘Gwnech Gais Nawr’ ar unrhyw UN o’r pynciau y mae gennych ddiddordeb mewn eu hastudio. Llenwch y ffurflen gais ar-lein, lle gofynnir i chi nodi’ch dau ddewis arall. Yna archebwch apwyntiad Cyfweliad i gwrdd â’r tiwtoriaid a thrafod y dewisiadau sydd orau gennych.
Argymhellir yn gryf Gradd B mewn TGAU Cymraeg/Ffrangeg/Almaeneg. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol o Sbaeneg ar lefel TGAU
Addysgu, Cyfieithu, Gwleidyddiaeth, Marchnata, Busnes, Y Gyfraith a Pheirianneg.
UG Sbaeneg-
Thema 1: Strwythurau teuluol, gwerthoedd traddodiadol a modern, cyfeillgarwch; Tueddiadau Ieuenctid. Materion a hunaniaeth bersonol; Cyfleoedd addysgol a chyflogaeth.
Thema 2: Diwylliant a threftadaeth ranbarthol yn Sbaen a gwledydd Sbaeneg eu hiaith
Ffilm: Maria Llena Eres de Gracia gan Joshua Marsdon.
A2 Sbaeneg -
Thema 3: Ymfudo ac integreiddio; Hunaniaeth ddiwylliannol; Gwahaniaethu ac amrywiaeth.
Thema 4: Y Ddwy Sbaen - Sbaen er 1936
Nofel: La Casa de Bernarda Alba gan Garcia Lorca.
UG Sbaeneg
Uned 1 - Arholiad siarad
Uned 2 - Gwrando, darllen cyfieithu ac ymateb beirniadol
A2 Sbaeneg
Uned 3 - Siarad
Uned 4 - Gwrando, darllen a chyfieithu
Uned 5 - Ymateb beirniadol a dadansoddol yn ysgrifenedig.
Mae ffi o £150 y pwnc pan yn astudio'n rhan-amser, sy'n daladwy ar adeg ymrestru.
Bydd costau ychwanegol yn gysylltiedig â chwrs.