Crynodeb o’r cwrs

Mae’r Tecstilau Lefel UG / Safon Uwch yn gwrs amser llawn dwy flynedd wedi’i leoli yn yr Academi Chweched Dosbarth (SFA) a ddyluniwyd ar gyfer myfyrwyr sydd â diddordeb mewn dysgu sgiliau cysylltiedig â thecstilau y byddwch chi’n eu hastudio ochr yn ochr â dwy Lefel A arall. Mae tecstilau yn ffurf gelf sy’n esblygu’n barhaus ac sy’n profi’n boblogaidd yn y byd creadigol fel cyfrwng credadwy i fynegi barn a dehongliadau artist o’r byd yr ydym yn byw ynddo. Bydd myfyrwyr yn profi ystod eang o weithdai tecstilau i ennill y sgiliau perthnasol sydd eu hangen ar gyfer y cwrs.

Mae’r rhain yn cynnwys detholiad o brosesau traddodiadol a chyfoes gan gynnwys amrywiaeth o dechnegau argraffu, gwneud papur, gwneud ffelt, pwyth llaw a pheiriant, trosglwyddo delwedd, rygiau rhacs, lliwio, batik, trin ffabrig a llawer mwy. Rhoddir cyfle i bob myfyriwr archwilio’r technegau hyn trwy eu hoffterau unigol o decstilau, ffasiwn neu ategolion.

Bydd y broses arbrofol hon yn esblygu trwy greu llyfr braslunio a fydd yn datblygu ystod o sgiliau o arlunio, casglu ymchwil gynradd ac eilaidd berthnasol, dadansoddi gwaith a gynhyrchwyd a gwaith eraill, cynhyrchu samplau tecstilau unigol a chreu cyfres o ganlyniadau proffesiynol ac unigryw.

Ymgeisio am Lefelau UG neu Lefel A? Cliciwch ‘Gwnech Gais Nawr’ ar unrhyw UN o’r pynciau y mae gennych ddiddordeb mewn eu hastudio. Llenwch y ffurflen gais ar-lein, lle gofynnir i chi nodi’ch dau ddewis arall. Yna archebwch apwyntiad Cyfweliad i gwrdd â’r tiwtoriaid a thrafod y dewisiadau sydd orau gennych.