Crynodeb o’r cwrs

Bydd myfyrwyr yn dilyn Llwybrau Sgiliau Byw’n Annibynnol (ILS) sy’n cynnwys Iechyd a Lles, Cynhwysiant Cymunedol, Sgiliau Byw’n Annibynnol a Sgiliau Personol a Chymdeithasol. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar yr unigolyn, gyda rhai agweddau o’r cwrs yn cael eu cyflwyno trwy amrywiaeth o brofiadau synhwyraidd a gweithgareddau corfforol i hyrwyddo dewis unigol, rhyngweithio cymdeithasol, cyfathrebu, a hunanymwybyddiaeth.