Crynodeb o’r cwrs

Mae’r cwrs Lefel 3 Weldio Uwch yn darparu cymhwyster a gynllynuiwyd ar gyfer weldwyr MIG, TIG neu MMA profiadol sydd am ddatblygu sgiliau technegol uwch a bodloni disgwyliadau’r diwydiant. Wrth adeiladu ar gymhwyster Lefel 3 mewn weldio neu brofiad cyfwerth, byddwch yn arbenigo mewn gwaith pibellau neu waith platiau ac yn gweithio tuag at gynhyrchu weldiau o ansawdd uchel ar draws ystod o safleoedd. Mae’r cwrs yn cefnogi symud ymlaen i rolau weldio uwch a hyfforddiant arbenigol neu oruchwyliol pellach o fewn i beirianneg a chynhyrchu.

Diwrnod ac amser: Dydd Mercher, 5pm-9pm
Dyddiad dechrau: Mis Medi 2026
Hyd: Blwyddyn (O fis Medi i fis Mehefin)

I bwy mae’r cwrs hwn?
• Weldwyr profiadol sydd wedi cyflawni cwrs Lefel 2 mewn weldio yn llwyddiannus
• Dysgwyr sy’n meddu ar gymwysterau cyfwerth a phrofiad ymarferol sylweddol mewn weldio
• Unigolion sy’n anelu at symud ymlaen i rolau weldio uwch neu arbenigol

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
• Technegau weldio uwch i gynhyrchu weldiau o ansawdd uchel ar gyfer cymwysiadau anodd
• Sut i weithio gyda deunyddiau a chydosodiadau mwy cymhleth
• Sut i ddarllen a dadansoddi arlunio technegol a symbolau weldio

Ar ôl cwblhau, byddwch yn ennill cymhwyster Lefel 3 mewn weldio, gan ddangos eich gallu a’ch parodrwydd am waith technegol ar lefel uwch.