Crynodeb o’r cwrs

Mae astudio Bioleg TGAU yn darparu’r sylfeini ar gyfer deall y byd materol. Mae dealltwriaeth wyddonol yn newid ein bywydau ac mae’n hanfodol i ffyniant y byd yn y dyfodol, a dylid dysgu agweddau hanfodol ar wybodaeth, dulliau, prosesau a defnyddiau gwyddoniaeth i bob dysgwr. Dylid eu helpu i werthfawrogi sut y gellir disgrifio ffenomenau cymhleth ac amrywiol y byd naturiol o ran nifer fach o syniadau allweddol sy’n ymwneud â’r gwyddorau sydd ill dau wedi’u cydgysylltu, ac sydd o gymhwysiad cyffredinol. Mae dau haen mynediad ar gyfer y cymhwyster hwn:

Haen Uwch – Graddau A* – D

Haen Sylfaen – Graddau C – G

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal yng Ngholeg Castell-nedd ar ddydd Llun, 4:30 pm – 7 pm. Bydd dosbarthiadau yn cychwyn yr wythnos yn dechrau 7fed Medi 2026.