Crynodeb o’r cwrs

Dosbarth Mathemateg TGAU cyflym gydag arholiadau ym mis Mai/Mehefin. Bydd y cwrs ar-lein ac oddeutu 3 awr yr wythnos. Bydd y cwrs yn eich paratoi ar gyfer yr asesiadau lefel ganolradd, lle mae’r radd uchaf y gellir ei chyflawni yn B. Mae’r papurau asesu wedi’u rhannu’n bapurau cyfrifiannell a rhai heb gyfrifiannell. Bydd y cwrs dwys hwn hefyd yn gofyn i fyfyrwyr ymgymryd ag o leiaf 3 awr o hunanastudio yr wythnos i sicrhau cynnydd addas mewn pryd ar gyfer arholiadau’r haf.

Disgwylir i ymgeiswyr fynychu arholiadau diwedd blwyddyn yng Ngrwp Colegau NPTC (Coleg Afan, Coleg Bannau Brycheiniog, Coleg Castell-nedd neu Goleg y Drenewydd).