Crynodeb o’r cwrs

Mae’r cwrs TGAU Saesneg Iaith yn gwrs rhan amser er mwyn i fyfyrwyr ennill eu cymhwyster TGAU er mwyn cynorthwyo gyda chyflogadwyedd a chael addysg bellach. Dylai’r manylebau TGAU mewn Saesneg Iaith sicrhau bod myfyrwyr yn gallu darllen yn rhugl ac ysgrifennu’n effeithiol. Dylent allu dangos rheolaeth hyderus ar Saesneg Safonol a dylent allu ysgrifennu brawddegau cywir yn ramadegol, defnyddio iaith ffigurol a dadansoddi testunau.

Bydd y cwrs yn rhedeg ar y dyddiadau a’r amseroedd canlynol:

Coleg Castell-nedd
Dydd Llun
6:00pm – 8.30pm

Coleg Afan
Dydd Mawrth
6.00pm – 8.30pm

Coleg Y Drenewydd
Dydd Mawrth
6.00pm – 8.30pm

Coleg Pontardawe
Dydd Mercher
6.00pm – 8.30pm

Coleg Bannau Brycheiniog
Dydd Mercher
6.00pm – 8.30pm

Bydd dosbarthiadau yn cychwyn yr wythnos yn dechrau 11 Medi 2023.

I gofrestru cliciwch ar ‘COFRESTRU NAWR’ ar yr ochr dde o dan y Coleg o’ch dewis.