Crynodeb o’r cwrs

Trwy fynychu’r cwrs hwn, bydd y dysgwr yn cael y wybodaeth fwyaf cyfredol sy’n ymwneud â Thrin â Llaw. Bydd dysgwyr yn gallu ymarfer eu sgiliau ac yn bwysicach fyth eu rhoi ar waith yn y gweithle, er mwyn cynnal diogelwch eu hunain ac eraill.

Mae’r cwrs hwn yn cwrdd â Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan a safonau QCF. Gellir darparu gwybodaeth i ddysgwyr sy’n ymgymryd â’u QCF a fydd yn cefnogi eu hunedau.