Mae hon yn dystysgrif a dderbynnir yn rhyngwladol sy’n dangos gwybodaeth am gysyniadau sylfaenol mewn TG, fel rheoli ffeiliau, prosesu geiriau, taenlenni, bas data, graffeg cyflwyniadau a defnydd o’r rhyngrwyd.
Nid oes angen gwybodaeth flaenorol am TG na sgiliau cyfrifiadurol i astudio ECDL; mae ar gyfer pobl sy’n dymuno cael cymhwyster meincnod mewn cyfrifiadura er mwyn gwella eu cyfleoedd gyrfaol neu ar gyfer datblygiad personol.
Unrhyw swydd lle mae cymhwysedd sylfaenol mewn TG yn ofynnol