Os ydych chi wedi cwblhau eich ECDL eisoes ac eisiau datblygu eich sgiliau, neu os ydych chi’n Ddefnyddiwr Pwer TG, efallai mai ECDL Uwch yw’r cymhwyster gorau i chi.
Fel rheol bydd y myfyriwr wedi cwblhau’r cymhwyster ECDL yn llwyddiannus cyn cychwyn ar yr ECDL Uwch, ond nid yw hyn yn hanfodol.
Nod y cwrs hwn yw gwella cyfleoedd gyrfaol myfyrwyr neu ar gyfer datblygiad personol.
Y modiwlau a gwmpesir yn y rhaglen hon yw:
Prosesu Geiriau Uwch
Taenlenni Uwch
Cronfa Ddata Uwch
Cyflwyniadau Uwch
Gwella Cynhyrchedd Gan ddefnyddio TG
Mae asesiadau ar ffurf arholiadau ar-lein a phapur ymarferol