Crynodeb o’r cwrs
Bydd y rhaglen hon yn gweddu i fyfyrwyr sy’n dymuno dechrau datblygu ystod eang o sgiliau twristiaeth, digwyddiadau a busnes. Bydd yn rhoi’r wybodaeth a’r mewnwelediad angenrheidiol i chi ddatblygu dealltwriaeth o reoli twristiaeth, busnes a digwyddiadau yn fwy effeithiol. Mae hwn wedi’i leoli yn yr adran Rheoli Twristiaeth Busnes (BTM).
Mae’r meini prawf mynediad yn nodweddiadol, ond mae’r Coleg yn ystyried pob cais ar ei ben ei hun sy’n golygu y gallwn roi cynigion yn seiliedig ar gymwysterau, prof l personol a phro ad. Os oes gennych unrhyw ymholiadau mewn perthynas a^’ch cynnig, cysylltwch a^’n Ti^m Derbyniadau. Cynnig nodweddiadol: 2 Safon Uwch Gradd E neu brof l MP/PPP mewn cymhwyster Lefel 3 BTEC a 5 TGAU Gradd C neu uwch, yn cynnwys Saesneg a Mathemateg (neu gymwysterau cyfatebol).
Gallwch symud ymlaen i gwrs Twristiaeth Ryngwladol a Rheoli Digwyddiad HND Lefel 5 neu gyrsiau amgen sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, busnes a digwyddiadau. Mae gan raddedigion ragolygon cyflogaeth mewn ystod eang o ddisgyblaethau twristiaeth a digwyddiadau, er enghraifft: cynadledda a rheoli digwyddiadau, ymgynghoriaeth twristiaeth a chynllunio, gweithrediadau teithiau, y diwydiant cwmnïau hedfan, marchnata, lletygarwch, manwerthu a rheoli adnoddau dynol.
Bydd y rhaglen fel arfer yn cynnwys darlithoedd a sesiynau tiwtorial. Fel arfer bydd yn rhaid i chi gwblhau portffolios, cyflwyniadau, gwaith ymarferol a gwaith cwrs wrth i chi symud ymlaen. Ymhlith y modiwlau mae: Marchnata, Ymddygiad Sefydliadol, Cyflwyniad i Lletygarwch, Twristiaeth a Digwyddiadau. Datblygiad Personol a Phroffesiynol Cymhwysol, Arferion Gweithredol Digwyddiad a Chyrchfannau Twristiaeth a Digwyddiad.
Fel arfer bydd yn rhaid i chi gwblhau portffolios, cyflwyniadau, gwaith ymarferol, arholiadau a gwaith cwrs wrth i chi symud ymlaen.