Crynodeb o’r cwrs

Mae cyrsiau AAT (Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifyddu) a gynigir yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ennill profiad ac i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd cyfrifyddu. Mae cyrsiau’n cynnwys tair lefel. Mae pob lefel yn cynrychioli cymhwyster ynddo’i hun.

Mae myfyrwyr yn derbyn tystysgrif ar gyfer pob lefel a gyflawnir. Mae angen cofrestru gydag AAT a thelir cost hyn yn uniongyrchol i’r corff proffesiynol.

Mae’r unedau’n cynnwys Cyflwyniad i Gadw Llyfrau, Egwyddorion Rheolaethau Cadw Llyfrau, Egwyddorion Costio a’r Amgylchedd Busnes a fydd yn darparu ehangder da o ddealltwriaeth i’r gweithiwr cyfrifyddu newydd neu’r rhai sy’n dymuno mynd i mewn i’r amgylchedd cyfrifyddu.

I gael rhagor o wybodaeth am AAT a’r cymwysterau a gynigir ewch i’w tudalen gwefan cymwysterau a chyrsiau yn: https://aat.org.uk/qualifications-and-courses

AAT Approved