Crynodeb o’r cwrs

Ar gael hefyd fel opsiwn Rhan-Amser – dewiswch ‘Cliciwch yma i gysylltu â ni’ am ragor o wybodaeth.

Mae gan Dystysgrif Estynedig BTEC Lefel 3 lwybr cyffredinol gwyddoniaeth gymhwysol. Mae’r cwrs yn darparu pwyntiau UCAS sy’n cyfateb i un lefel A.
Mae’r cwrs Gwyddoniaeth Gymhwysol yn eich arfogi ag amrywiaeth o wahanol sgiliau a sylfaen wybodaeth wyddonol eang yn rhychwantu bioleg, cemeg a ffiseg. Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfleoedd i fyfyrwyr wneud cais i ystod eang o gyrsiau prifysgol (gweler isod am rai enghreifftiau).