Crynodeb o’r cwrs
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr ôl-16 i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiadau i baratoi ar gyfer gyrfa mewn ystod o fusnesau.
Mae’r cwrs hwn wedi’i gynllunio ar gyfer dysgwyr ôl-16 i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth ac ymddygiadau i baratoi ar gyfer gyrfa mewn ystod o fusnesau.
2 radd TGAU ar C neu'n uwch a neu gymhwyster Lefel 1 addas ynghyd â chyfweliad.
Mae'r cymhwyster hwn ar gyfer dysgwyr sydd am ddechrau gyrfa mewn busnes neu symud ymlaen i ddarpariaeth Lefel 3. Byddai dilyniant llwyddiannus yn eich galluogi i wneud cais am brentisiaethau ym maes adwerthu, gwasanaeth cwsmeriaid, menter.
Mae'r rhaglen wedi'i datblygu gyda chyflogwyr blaenllaw o'r sector busnes a menter. Mae'n gwrs newydd a chyffrous sy'n cael ei gyflwyno yn yr Ysgol Fusnes. Gwahoddir entrepreneuriaid lleol i rannu eu profiadau o sut y dechreuon nhw eu busnes gyda dysgwyr. Gellir integreiddio cystadlaethau menter o fewn y cwrs.
Byddwch yn astudio: Menter, Marchnata, Cynllunio Busnes a Phitsio am syniad busnes.
Bydd cyfleoedd ailddechrau TGAU ar gael mewn llythrennedd a rhifedd i wella cyfleoedd cyflogaeth a dilyniant i gyrsiau lefel 3.
Byddwch yn cwblhau un asesiad allanol gwerth 25% a thri asesiad mewnol gwerth 75%.
Bydd hyn yn cynnwys adroddiadau ysgrifenedig, cyflwyniadau, cynlluniau rôl a thasgau rheoledig. Byddwch hefyd yn cymryd asesiadau mewn llythrennedd a rhifedd.