Crynodeb o’r cwrs

Mae’r cwrs rhan amser hwn wedi cael ei gynllunio i’ch helpu i ddatblygu sgiliau a gwybodaeth ym maes pobyddiaeth broffesiynol. Byddwch yn gweithio tuag at gymhwyster Lefel 2 achrededig mewn pobyddiaeth, a fydd yn eich helpu i gyrraedd safonau cydymffurfio’r diwydiant a dangos cymhwysedd galwedigaethol. Mae’r cwrs yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth mewn ystod eang o leoliadau pobyddiaeth neu ar gyfer symud ymlaen i astudiaethau lefel uwch yn y proffesiwn.

Diwrnod ac amser: Dydd Mercher, 9am i 1.30pm
Dyddiad dechrau: 9 Medi 2026
Hyd: Blwyddyn (o fis Medi i fis Mehefin)

I bwy mae’r cwrs hwn?
• Dysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster Lefel1 mewn pobyddiaeth neu sydd â phrofiad perthnasol
• Oedolion sy’n awyddus i ddatblygu sgiliau pobyddiaeth ymarferol ochr yn ochr ag ymrwymiadau gwaith eraill
• Y rheini sydd am symud ymlaen ym myd gwaith neu ennill cymwysterau yn y proffesiwn pobyddiaeth

Yr hyn y byddwch yn ei ddysgu
• Egwyddorion craidd pobyddiaeth a’r cynhwysion sydd eu hangen
• Sut mae gwneud nwyddau wedi’u pobi i safonau ansawdd a phroffesiynol
• Sgiliau ymarferol i greu, i bobi ac i orffen amrywiaeth o gynhyrchion wedi’u gwneud o does

Ar ôl cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn cael cymhwyster Lefel 2 mewn pobyddiaeth, gan ddangos eich gallu i weithio mewn amgylcheddau pobyddiaeth proffesiynol.