Crynodeb o’r cwrs

Mae’r Cwrs Weldio Rhan-amser Lefel 2 Noson (5pm-9pm) hwn wedi’i gynllunio ar gyfer unigolion sydd â diddordeb mewn dysgu proses weldio benodol, naill ai MIG, TIG, neu MMA mewn safleoedd fertigol a uwchben. Mae’r cwrs yn rhedeg am 16 wythnos ac yn rhoi cyfle i fyfyrwyr ennill dyfarniad achrededig yn y broses weldio o’u dewis.

Mae’r cwrs hwn yn ddilyniant o’n cwrs Noson Rhan-amser Lefel 1.

Trwy gydol y cwrs, bydd myfyrwyr yn datblygu eu gwybodaeth mewn theori weldio a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen i gyflawni’r broses weldio o’u dewis yn effeithiol. Addysgir y cwrs mewn awyrgylch gweithdy, gan roi cyfle i fyfyrwyr ymarfer eu sgiliau a datblygu eu techneg dan oruchwyliaeth tiwtor profiadol.

Bydd y cwrs yn ymdrin â hanfodion weldio, gan gynnwys ystyriaethau iechyd a diogelwch, egwyddorion weldio, ac offer weldio.