Crynodeb o’r cwrs

Mae’r Dystysgrif IQ Lefel 3 Gweithredol mewn Hyfforddiant Personol yn ddelfrydol os ydych chi am ddilyn gyrfa yn y sector iechyd a ffitrwydd a chael gwaith fel hyfforddwr personol. Bydd yn darparu cyfuniad o wybodaeth a sgiliau i chi ragnodi, cynllunio a darparu rhaglenni ymarfer corff diogel ac effeithiol a sesiynau hyfforddi personol i ystod o gleientiaid.

Trwy gyflawni’r cymhwyster hwn fe’ch cydnabyddir fel hyfforddwr personol cymwys. Byddwch hefyd yn gallu cael mynediad i’r Gofrestr Gweithwyr Proffesiynol Ymarfer Corff ar Lefel 3.

Nod y cymhwyster yw adeiladu ar eich gwybodaeth a’ch sgiliau presennol mewn hyfforddiant campfa a datblygu’r sgiliau hyn ymhellach i ddilyn gyrfa mewn hyfforddiant personol.