Crynodeb o’r cwrs
Mae’r rhaglen yn helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i weithio yn y diwydiant deinamig hwn. Mae’r cymhwyster yn cael ei ddarparu mewn amgylchedd coleg lle mae’r myfyrwyr yn cael eu cyflwyno i brofiadau diwydiant gwaith go iawn yng nghegin gynhyrchu a Bwytai Hyfforddi’r Coleg – Blasus a Themâu. Bydd sgiliau coginio a gweini bwyd yn cael eu haddysgu trwy arddangosiadau ymarferol bywiog, a bydd profiad ymarferol yn gyfle i fyfyrwyr ymarfer y sgiliau y maent wedi’u dysgu.
-
Gofynion Mynediad
Dim gofynion mynediad ffurfiol (cyfweliad).
-
Rhagolygon Gyrfa
Mae’r Dystysgrif NVQ yn darparu sylfaen ardderchog ar gyfer y rhai sydd am gamu ymlaen i yrfa yn y diwydiant lletygarwch. Gallwch chi hefyd ymgeisio am Ddiploma Lefel 2 mewn Gwasanaethau Lletygarwch.