Crynodeb o’r cwrs

Mae Diploma Lefel 2 UAL mewn Celf a Dylunio yn gwrs addysg bellach amser llawn wedi’i gynllunio ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno ennill profiad a sgiliau mewn ystod o arbenigeddau artistig ac o bosibl weithio fel artist proffesiynol. Mae hwn wedi’i leoli yn adran y Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio (CVP).

Mae’r maes llafur yn eang a bydd yn darparu llawer o gyfleoedd i chi ddefnyddio’ch dychymyg a’ch creadigrwydd. Mae gallu lluniadu a sgiliau ymarferol hefyd yn bwysig a bydd angen llygad arnoch am liw a siâp, parodrwydd i arbrofi yn ogystal ag ymrwymiad.