Crynodeb o’r cwrs

Mae cwrs blwyddyn Diploma Lefel 2 City & Guilds mewn Pobi Proffesiynol (Patisserie a Melysion) yn arbenigo mewn sgiliau pobi uwch, patisserie a melysion ar gyfer y rhai sydd am symud ymlaen i lefel oruchwylio mewn becws neu gegin broffesiynol.

Cyflwynir y cymhwyster trwy sesiynau ymarferol a theori ynghyd â phrofiad gwaith go iawn yn ein Blasws Siop Fecws. Byddwch yn datblygu repertoire eang o sgiliau o fara artisan i waith siocled a siwgr. Mae hwn wedi’i leoli yn yr adran Arlwyo, Lletygarwch ac Amaeth (CHA).