1. Ble mae swyddi gwag Grŵp Colegau NPTC yn cael eu hysbysebu?

Mae pob swydd wag yn cael ei hysbysebu ar y gwefannau canlynol: career.nptcgroup.ac.uk, Canolfan Byd Gwaith, fejobs.com, Adzuna, eteach.com ac Addysgwyr Cymru. Rydym hefyd yn dosbarthu manylion ein swyddi gwag ar X: @NPTCJobs, Facebook: Jobs at NPTC Group of Colleges, LinkedIn: Jobs at NPTC Group of Colleges ac Instagram: @jobs_nptcgroupofcolleges.

  1. Pwy all wneud cais am swyddi gwag Grŵp Colegau NPTC?

Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r cymwysterau, y sgiliau, y profiad a’r gallu ar gyfer y swydd, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Os ydych yn ansicr, bydd y swydd ddisgrifiad a manyleb y person yn rhoi manylion i chi am yr hyn yr ydym yn chwilio amdano.

  1. A allaf wneud cais gyda fy CV?

Mae’r Coleg yn gofyn i bob ymgeisydd lenwi ffurflen gais gan fod hyn yn rhoi i ni y wybodaeth amdanoch chi a’r ymgeiswyr eraill mewn ffordd gyson. Mae hyn yn ein helpu i sicrhau bod ein proses yn deg. Mae hefyd yn ein helpu i gasglu gwybodaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth am ein holl ymgeiswyr, i fodloni ein rhwymedigaeth statudol ac yn ein helpu i gefnogi ymgeiswyr o bob sector o’r gymuned.

  1. Ble gallaf gael ffurflen gais?

Gallwch wneud cais ar-lein drwy glicio ar y botwm “Gwneud Cais Nawr” ar ochr dde’r swydd a hysbysebwyd.

  1. Pa mor hir ddylai fy natganiad ategol fod?

Gellid dadlau mai’r datganiad ategol yw rhan anoddaf y broses ymgeisio ac mae’n hanfodol eich bod yn ei gael yn iawn.  Dyma eich cyfle i werthu eich hun i’r panel sy’n llunio’r rhestr fer.  Dylai fod yn unigryw i chi ac wedi’i deilwra i’r swydd rydych yn gwneud cais ar ei chyfer.  Dylech ei ddefnyddio i ddangos eich sgiliau, eich cymwysterau a’ch profiadau.  Fel arfer, dylai fod o leiaf un ochr A4, yn cyfateb i tua 800 – 1000 o eiriau.  Fodd bynnag, bydd datganiadau ategol yn amrywio o ran hyd yn dibynnu ar y swydd y gwneir cais amdani.

  1. Pa mor hir mae llunio rhestr fer yn ei gymryd a sut byddaf yn gwybod a ydw i wedi cyrraedd y rhestr fer?

Unwaith y bydd y swydd wag wedi cau bydd llunio’r rhestr fer fel arfer yn digwydd o fewn pythefnos. Byddwn yn ysgrifennu at bob ymgeisydd sydd wedi cyrraedd y rhestr fer i’w gwahodd ymlaen i gam nesaf y broses ddethol. Bydd ymgeiswyr nad ydynt ar y rhestr fer yn cael gwybod am hyn.

  1. Rwyf wedi cael fy ngwahodd am gyfweliad, beth sydd angen i mi ddod gyda mi ar y diwrnod?

Bydd angen i chi ddod â phrawf adnabod fel eich pasbort neu dystysgrif geni. Bydd hefyd yn ofynnol i chi ddod â thystysgrifau gwreiddiol o unrhyw gymwysterau yr ydych wedi sôn amdanynt yn eich ffurflen gais. Byddwn hefyd yn gofyn i chi gwblhau datganiad datgelu fel rhan o’n proses ddiogelu. Bydd hyn i gyd yn cael ei amlinellu yn eich llythyr o wahoddiad.

  1. Ni allaf ddod o hyd i’m tystysgrifau cymwysterau, beth ddylwn i ei wneud?

Os ydych wedi dweud wrthym yn eich ffurflen gais bod gennych gymhwyster, mae’n ofynnol i ni weld y dystysgrif wreiddiol. Gallwch gysylltu â’r corff dyfarnu fel CBAC i wneud cais am un arall.

  1. Gofynnwyd i mi roi cyflwyniad fel rhan o’r asesiad, pa gyfleusterau fydd ar gael?

Os yw eich asesiad yn cael ei gynnal ar unrhyw un o’n safleoedd, bydd bwrdd rhyngweithiol, Office (gan gynnwys PowerPoint), mynediad i’r rhyngrwyd a thaflunydd ar gael i chi. Fodd bynnag, os oes angen adnoddau ychwanegol arnoch, cysylltwch â’r Tîm Recriwtio ar 0330 818 8031, o leiaf 48 awr cyn eich asesiad a byddwn yn gwneud pob ymdrech i fodloni’ch gofynion.

  1. Beth yw Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA)?

CGA yw’r rheolydd annibynnol yng Nghymru ar gyfer Addysg Bellach ac mae’n ei gwneud yn ofynnol i’r rhai sy’n gweithio mewn swyddi sy’n gysylltiedig ag addysgu a dysgu, gan gynnwys dysgu seiliedig ar waith, gael eu cofrestru fel ymarferydd addysg. Os byddwch yn llwyddiannus gyda’ch cais a bod y swydd yr ydych yn gwneud cais amdani yn perthyn i’r categori hwn, byddwn yn rhoi gwybod i chi ac yn rhoi manylion i chi ynghylch sut y gallwch gofrestru.

  1. A fydd angen gwiriad Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) arnaf?

Fel darparwr addysg, rydym yn ei gwneud yn ofynnol i’n holl staff gael gwiriad DBS manwl boddhaol. Os byddwch yn llwyddiannus yn eich cais, byddwn yn rhoi manylion i chi ynghylch sut y gallwch wneud cais. Rydym hefyd yn mynnu bod ein holl staff yn cofrestru gyda’r Gwasanaeth Diweddaru. Mae hyn yn gwneud eich gwiriad DBS yn gludadwy.

  1. Rwyf wedi bod yn llwyddiannus – pryd y gallaf ddechrau?

Mae angen y canlynol cyn i chi ddechrau eich cyflogaeth; gwiriad hawl i weithio; dau eirda boddhaol, y mae’n rhaid i un ohonynt fod gan eich cyflogwr presennol neu fwyaf diweddar; ffurflen gais DBS wedi’i chwblhau gyda dogfennaeth ategol lawn a thaliad; cadarnhad o gofrestriad gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA) os yw’n berthnasol a dilysiad o’r holl dystysgrifau cymwysterau gwreiddiol perthnasol.

  1. Mae gan Grŵp Colegau NPTC sawl campws, sut byddaf yn gwybod ble mae’r swydd wedi’i lleoli?

Bydd yr hysbyseb yn dweud wrthych ble mae’r swydd wedi’i lleoli.