Cyhoeddiad Pwysig

Efallai eich bod yn gwybod bod un o’n prif safleoedd, Academi Chwaraeon Llandarcy wedi’i droi dros dro yn ysbyty maes. Yn ffodus, ni fu angen derbyn unrhyw gleifion yno ac mae’r Coleg yn gweithio gyda’r bwrdd iechyd lleol gyda’r bwriad o ddychwelyd y safle ac yn ôl i fyny ar ôl hanner tymor mis Hydref.

Wrth baratoi ar gyfer croesawu myfyrwyr newydd, rydym yn datblygu ffyrdd o gyflwyno ac addysgu ar-lein a defnyddio dull dysgu cyfunol, gan deilwra dulliau addysgu i gofleidio dull digidol. Ein blaenoriaeth yw bod pawb yn aros yn ddiogel ac yn iach a’n bod yn darparu profiad rhagorol i fyfyrwyr, hyd yn oed o fewn y cyfyngiadau cyfredol.