Yng Ngrŵp Colegau NPTC, rydym yn annog ein myfyrwyr Cymraeg sy’n siarad a’n myfyrwyr sy’n dysgu Cymraeg i ddefnyddio’r iaith lle bynnag y bo modd. Mewn gwirionedd, mae’r coleg yn cynnal llawer o wahanol glybiau, gweithgareddau a digwyddiadau dwyieithog trwy gydol y flwyddyn sy’n addas ar gyfer pob lefel iaith Gymraeg.

Os ydych am ddilyn eich cwrs trwy gyfrwng Cymraeg neu gwblhau eich aseiniadau yn Gymraeg, a bod gennym staff Cymraeg eu hiaith ar gael yn y meysydd pwnc hynny, gwneir pob ymdrech i’ch helpu i astudio yn yr iaith o’ch dewis.

Ar ben hynny, mae cyfleoedd i siaradwyr a dysgwyr Cymraeg barhau i ddatblygu eu sgiliau iaith, trwy ymgymryd â chymwysterau ychwanegol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Os buoch chi mewn ysgol Gymraeg o’r blaen cyn dod i Grŵp NPTC, byddwch yn cwrdd ag Angharad,
Cydlynydd Datblygu Dwyieithog y coleg yn ystod y tymor cyntaf, i chi wybod popeth am Gymraeg yn y coleg!

Am fanylion pellach, cysylltwch â:

Angharad Morgan
Cydgysylltydd Datblygu Dwyieithog
(Campysau Castell-nedd Port Talbot)
E-bost – angharad.morgan @nptcgroup.ac.uk
Ffôn: 01639 648409

Robin Gwyn
Cyfarwyddwr Dwyieithrwydd (Campysau Powys)
E-bost: robin.gwyn@nptcgroup.ac.uk
Ffôn: 0845 4086410