Mae Undeb y Myfyrwyr Grŵp Colegau NPTC yn undeb ar gyfer myfyrwyr, gyda myfyrwyr wrth y llwy ac mae’n pontio’r bwlch rhwng myfyrwyr a rheolwyr y coleg gan sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed ar lefel uwch

 

Beth ydy Undeb y Myfyrwyr Grŵp Colegau NPTC yn ei wneud?

Dyluniwyd Undeb y Myfyrwyr i nid yn unig gynrychioli lleisiau’r myfyrwyr ac alinio gyda’r ‘Strategaeth Cynnwys Myfyrwyr’ mae hefyd yno fel dull o ennyn diddordeb myfyrwyr ar draws yr holl gampysau wrth gymdeithasu a chreu teimlad cymunedol. Rydyn ni’n gobeithio cynnal digwyddiadau i ddod â myfyrwyr ynghyd a gwneud awyrgylch – mwy nag addysg, ffordd o fyw yn unig.

Pam wnaethoch chi benderfynu dechrau Undeb y Myfyrwyr?

Roeddem am ei wneud yn lle mwy deniadol i fyfyrwyr. Mae coleg yn lle rydych chi’n stopio am gyfnod byr, ond lle gall cyfeillgarwch, sgiliau a chymwysterau bara am byth. Roeddem am i fyfyrwyr deimlo ei fod yn amgylchedd cysylltiedig y gallant ei fwynhau.

Pam dylai myfyrwyr ymuno ag Undeb y Myfyrwyr?

Mae Undeb y Myfyrwyr yn gyfle i wneud ffrindiau a mwynhau awyrgylch coleg amrywiol a bywiog. Mae’r Undeb yn rhoi cyfle arall i chi leisio’ch barn, os na fyddwch chi’n siarad am yr hyn sy’n gweithio a’r hyn nad yw’n gweithio, ni ellir gwneud gwelliannau.

Dod o hyd i ni ar Instagram!

Instagram Logo