- Nid oes ffi cystadlu ac nid oes angen prynu unrhyw beth er mwyn cymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.
- Bydd ceisiadau lluosog yn cael eu cyfrif unwaith yn unig; bydd unrhyw geisiadau sy’n cynnwys iaith anweddus yn cael eu diarddel.
- Mae’r dyddiad(au) a’r amser(au) yn derfynol. Ar ôl y dyddiad a’r amser hwn, ni chaniateir unrhyw geisiadau pellach i’r gystadleuaeth.
- Bydd cyfarwyddiadau ymgeisio’r gystadleuaeth yn cael eu cyfleu’n briodol o fewn amser rhesymol. Nodwch, ar gyfer cystadlaethau ar-lein, mae’n rhaid i chi hoffi/dilyn Grŵp Colegau NPTC ar lwyfan priodol a rhannu postiad y gystadleuaeth er mwyn cael eich cynnwys yn y gystadleuaeth.
- Caiff pob gwobr ei hegluro yn y postiad cysylltiedig. Cofiwch, efallai bydd gan rai gwobrau gyfyngiadau o ran oed a dyddiad. Edrychwch ar delerau ac amodau’r cwmnïau trydydd parti eu hunain. Ni fydd Grŵp Colegau NPTC yn atebol am unrhyw golled, difrod neu anaf yn lleoliadau’r cwmnïau trydydd parti cysylltiedig.
- Mae Grŵp Colegau NPTC yn cadw’r hawl i ganslo neu ddiwygio’r gystadleuaeth a’r telerau a’r amodau hyn heb rybudd os bydd trychineb, rhyfel, aflonyddwch sifil neu filwrol, gweithred Duw neu unrhyw dor-cyfraith gwirioneddol neu ddisgwyliedig o ran unrhyw gyfraith neu reoliad perthnasol neu unrhyw ddigwyddiad arall y tu allan i reolaeth yr hyrwyddwr. Bydd yr ymgeiswyr yn cael gwybod gan yr hyrwyddwr am unrhyw newidiadau i’r gystadleuaeth cyn gynted â phosib.
- Nid yw’r hyrwyddwr yn gyfrifol am fanylion anghywir o ran gwobrau a roddir i unrhyw ymgeisydd gan unrhyw drydydd parti sy’n gysylltiedig â’r gystadleuaeth hon.
- Ni chynigir arian parod yn lle’r gwobrau. Nid yw’r gwobrau’n drosglwyddadwy. Mae gwobrau’n seiliedig ar argaeledd ac rydym yn cadw’r hawl i amnewid unrhyw wobr gydag un arall o werth cyfatebol heb roi rhybudd.
- Rydym yn cadw’r hawl i dynnu’r wobr yn ôl oddi wrth yr enillydd a dewis enillydd newydd.
- Bydd yr hyrwyddwr yn rhoi gwybod i’r enillydd pryd ac ymhle y gellir casglu’r wobr.
- Bydd penderfyniad yr hyrwyddwr mewn perthynas â’r holl faterion sy’n ymwneud â’r gystadleuaeth yn derfynol, ac ni fydd yn ymgymryd ag unrhyw ohebiaeth.
- Gallai Grŵp Colegau NPTC ddefnyddio’r wybodaeth a gasglwn ar gyfer gweithgareddau sy’n gysylltiedig â marchnata. Gweler ein Polisi Preifatrwydd.
- Tybir bod ymgeisio yn y gystadleuaeth yn golygu eich bod yn derbyn y telerau a’r amodau hyn.
- Cysylltwch â marketing@nptcgroup.ac.uk am unrhyw ymholiadau pellach.