Teitl y Swydd
Prentis (Lefel 2): Gweinyddu Busnes (Coleg Castell-nedd)
Cyfeirnod
280622/APP/BA/AH
Dyletswyddau
Darparu gwasanaeth cymorth gweinyddol a derbynfa ar gyfer Hyfforddiant Pathways.
Cymwysterau
Rhaid i'r ymgeisydd llwyddiannus fod yn barod i ymgymryd â chymhwyster Lefel 2 y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau mewn Gweinyddu Busnes (darperir hyfforddiant). Rhaid i ymgeiswyr feddu ar gymhwyster lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (TGAU neu gyfatebol). Rhaid i ymgeiswyr fod yn hyddysg mewn TG hyd at Lefel 2 (â gwybodaeth ymarferol o MS Word ac Excel)
Cyflog
£9,280 y flwyddyn neu'n amodol ar ddarpariaethau'r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (os yn berthnasol).
Lleoliad
Grŵp Colegau NPTC (yng Ngholeg Castell-nedd yn y lle cyntaf).
Oriau Gwaith
37 awr yr wythnos (gan gynnwys gyda'r hwyr ac yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau yn achlysurol).
Cytundeb
Cyfnod penodedig amser llawn, hyd nes cwblhau'r Fframwaith Prentisiaethau, gan gynnwys y Fframwaith Cymwysterau a Chredydau (NVQ gynt) a Sgiliau Hanfodol. Y cyfnod hiraf ar gyfer pob lefel FfCCh yw 66 wythnos.
Dyddiad cau
28/06/2022 12:00pm
Gwybodaeth Arall
Am ragor o fanylion neu os hoffech ymgeisio ar-lein, ewch i www.nptcgroup.ac.uk. Fel arall, e-bostiwch jobs@nptcgroup.ac.uk gan ddyfynnu'r cyfeirnod: 280622/APP/BA/AH Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael Gwiriad Manwl boddhaol. Cysylltir ag ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer yn unig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Dim asiantaethau os gwelwch yn dda
Lawrlwytho ffurflen gais (Word)