Teitl y Swydd
Swyddog Cyfleusterau a Goruchwylydd Safle
Cyfeirnod
120722/FSSSO/AH
Dyletswyddau
I gynorthwyo'r Rheolwr Cyfleusterau gyda gweithrediadau o ddydd i ddydd, cynnal a chadw adeiladau, trwsio eiddo, adnewyddu a monitro contractau i'r Coleg.
Cymwysterau
Dylai fod gan yr ymgeisydd delfrydol gymhwyster lefel 3, e.e. NVQ lefel 3/Tystysgrif Crefft Uwch mewn disgyblaeth berthnasol a phrofiad perthnasol. Rhaid i ymgeiswyr hefyd feddu ar gymhwyster lefel 2 mewn Mathemateg a Saesneg (TGAU neu gyfatebol) a bod yn hyddysg mewn TG hyd at lefel 2. Mae profiad o waith mecanyddol, trydanol, plymio, cynnal a chadw gwasanaethau adeiladau a gwaith trwsio yn hanfodol, ynghyd â dealltwriaeth o faterion iechyd a diogelwch gan gynnwys cydymffurfiaeth statudol. Mae trwydded yrru lân a dilys hefyd yn hanfodol.
Cyflog
Graddfa 5, Pwyntiau 25-28, £24,242 - £26,303 y flwyddyn.
Lleoliad
Grŵp Colegau NPTC (yng Ngholeg Y Drenewydd yn y lle cyntaf, i ddarparu cefnogaeth i Golegau Y Drenewydd, Llandrindod a Bannau Brycheiniog).
Oriau Gwaith
37 awr yr wythnos (gan gynnwys gyda'r hwyr ac yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau yn achlysurol).
Cytundeb
Amser llawn, parhaol.
Dyddiad cau
12/07/2022 12:00pm
Gwybodaeth Arall
Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael Gwiriad Manwl boddhaol. Ail hysbyseb yw hon, nid oes angen i ymgeiswyr blaenorol ymgeisio Am ragor o fanylion neu os hoffech ymgeisio ar-lein, ewch i www.nptcgroup.ac.uk Fel arall, e-bostiwch jobs@nptcgroup.ac.uk gan ddyfynnu'r cyfeirnod: 120722/FSSSO/AH Cysylltir ag ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer yn unig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Dim asiantaethau os gwelwch yn dda.
Lawrlwytho ffurflen gais (Word)