Teitl y Swydd
Technegydd/Derbynnydd: Trin Gwallt a Therapi Harddwch (Coleg Afan)
Cyfeirnod
010722/TR/HAT/AH
Dyletswyddau
I ddarparu cymorth technegol ar draws maes cwricwlwm yr ysgol Gwallt a Therapïau Cymhwysol.
Cymwysterau
Dylai fod gan yr ymgeisydd delfrydol gymhwyster Lefel 3 mewn disgyblaeth berthnasol a phrofiad perthnasol. Dylech fod yn hyddysg mewn TG hyd at lefel 2 (gyda gwybodaeth ymarferol o MS Excel) a meddu ar gymhwyster lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg (TGAU neu gyfatebol).
Cyflog
Graddfa 2, Pwyntiau 14-16, £19,100 - £19,595 y flwyddyn, pro rata. (sy'n cyfateb i £8,674 - £8,899 y flwyddyn)
Lleoliad
Grŵp Colegau NPTC (yng Ngholeg Afan yn y lle cyntaf).
Oriau Gwaith
20 awr yr wythnos (gan gynnwys gyda'r hwyr ac yn gynnar yn y bore ac ar benwythnosau yn achlysurol).
Cytundeb
Parhaol, rhan-amser, rhan o'r flwyddyn, 37.8 wythnos y flwyddyn.
Dyddiad cau
01/07/2022 12:00pm
Gwybodaeth Arall
Am ragor o fanylion neu os hoffech ymgeisio ar-lein, ewch i www.nptcgroup.ac.uk/jobs Fel arall, e-bostiwch jobs@nptcgroup.ac.uk gan ddyfynnu'r cyfeirnod: 010722/TR/HAT/AH Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus gael Gwiriad Datgeliad Manwl boddhaol. Cysylltir ag ymgeiswyr sydd ar y rhestr fer yn unig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn Gymraeg ac ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. Dim asiantaethau os gwelwch yn dda
Lawrlwytho ffurflen gais (Word)