Mae dysgwyr, cyflogwyr a darparwyr addysg a hyfforddiant wedi rhannu eu profiadau a’u blaenoriaethau gyda’r Dirprwy Weinidog dros Sgiliau ac Addysg Drydyddol Llywodraeth Cymru, Cefin Campbell, sydd wedi ymrwymo i roi llais y dysgwr wrth wraidd polisi sgiliau.
Cychwynnwyd y Bwrdd Crwn Llais y Dysgwr WorldSkills yn y Trallwng gan y Dirprwy Weinidog i glywed yn uniongyrchol gan ddysgwyr a’r sector ehangach am eu profiadau, eu huchelgeisiau a’u syniadau ar gyfer dyfodol sgiliau yng Nghymru.
Canolbwyntiodd y trafodaethau ar bwysigrwydd cysylltiadau cryfach rhwng ysgolion, colegau, darparwyr hyfforddiant a chyflogwyr, cynyddu ymwybyddiaeth a chydnabyddiaeth o lwybrau galwedigaethol a rhoi cyfleoedd ystyrlon i bobl ifanc cael profiad yn y gweithle.
Rhannodd dysgwyr sut roedd prentisiaethau a chymwysterau coleg wedi rhoi hyder, sgiliau, uchelgais a chyfleoedd gyrfa iddynt, tra bod cystadlaethau sgiliau wedi eu helpu i ddatblygu eu sgiliau technegol ac ymdrechu am ragoriaeth.
Anerchodd y Dirprwy Weinidog y digwyddiad, a gynhaliwyd ar y cyd gan Gwmni Hyfforddiant Cambrian a Grŵp Colegau NPTC, trwy negeseuon fideo wedi’u recordio.
“Os ydym am adeiladu system sgiliau sy’n gweithio i bobl ledled Cymru, mae angen i ni wrando ar bobl sy’n ei phrofi’n uniongyrchol,” meddai. “Dyna pam roeddwn i eisiau i ni glywed yn uniongyrchol gan ddysgwyr am eu profiadau, eu huchelgeisiau a’r heriau maen nhw’n eu hwynebu.
“Mae eu lleisiau a’u profiadau yn hynod bwysig i’n helpu i ddeall yr hyn sy’n gweithio a lle mae angen i bethau newid. Rydyn ni eisiau i ddysgwyr gael llais gwirioneddol wrth lunio dyfodol sgiliau yng Nghymru, fel bod y cyfleoedd rydyn ni’n eu creu yn adlewyrchu’r hyn sydd ei angen ar bobl i ddysgu, symud ymlaen ac adeiladu eu dyfodol.”
Roedd y bwrdd crwn yn un o dri a gynhaliwyd ledled Cymru ar ran Llywodraeth Cymru. Daeth y bwrdd crwn â phrentisiaid, dysgwyr coleg, cyflogwyr, darparwyr addysg a hyfforddiant, a sefydliadau sy’n gweithio ar draws y sector sgiliau at ei gilydd.
Tynnodd sylw at gryfder prentisiaethau lletygarwch, twristiaeth a bwyd a diod yng Nghymru, y rôl y mae cyflogwyr yn ei chwarae wrth ddatblygu talent y dyfodol a chefnogaeth ar gyfer sicrhau bod llwybrau galwedigaethol a llwybrau academaidd yn cael eu parchu yn yr un modd.
Dywedodd Adam Pike, uwch gogydd adran (senior chef de partie) yn Pant-yr-Ochain, Gresffordd: “Mae fy mhrentisiaeth a chystadlu wedi rhoi’r hyder i mi arddangos y sgiliau rydw i wedi’u dysgu a symud ymlaen fel cogydd. Hoffwn i’r Dirprwy Weinidog wella ymwybyddiaeth o’r gwahanol lwybrau i’r diwydiant.”
Dywedodd Oliver Addis-Fuller, rheolwr bar a digwyddiadau yng Ngwesty’r Glyn Clydach, Mynachlog Nedd: “Mae fy mhrentisiaeth uwch wedi dysgu popeth sydd angen i mi ei wybod am fy swydd, datblygu fy hyder a’m helpu i gynllunio digwyddiad ar gyfer 1,000 o bobl. Hoffwn i’r Dirprwy Weinidog gynyddu ymwybyddiaeth o lwybrau dysgu i’r diwydiant.”
Dywedodd Lisa Mytton, hwylusydd y bwrdd crwn a chyfarwyddwr strategol NTfW: “Mae’n rhaid i ni sicrhau bod cyfleoedd yn bodoli i dyfu’r llif o dalent yma yng Nghymru i gefnogi’r economi.”
Roedd y drafodaeth hefyd yn archwilio pwysigrwydd cyfranogiad cyflogwyr mewn addysg alwedigaethol a darparu cyfleoedd profiad gwaith ystyrlon i bobl ifanc.
Trafododd y panelwyr y Dystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd (TAAU) newydd, gan gynnwys yr ystyriaethau ymarferol ar gyfer ysgolion a’r rôl bwysig y mae cyflogwyr yn ei chwarae wrth greu profiadau galwedigaethol ystyrlon i ddysgwyr.
Mae’r Dirprwy Weinidog wedi lansio archwiliad sgiliau cenedlaethol cynhwysfawr i fapio prinder yn y gweithlu ac ail-lunio hyfforddiant galwedigaethol ledled Cymru, gan sicrhau bod llais y dysgwr yn rhan o’r drafodaeth bolisi ehangach.
Llun: Panelwyr yn nigwyddiad Bwrdd Crwn Llais y Dysgwr WorldSkills a gynhaliwyd yn y Trallwng.