Peirianneg

Bydd gyrfa mewn peirianneg yn rhoi cyflog rhagorol i chi, llawer o amrywiaeth yn eich gwaith a lefelau uchel o foddhad swydd. Pa bynnag ddisgyblaeth a ddewiswch, gall adeiladu sylfaen gref o wybodaeth gyda chwrs peirianneg yng Ngrŵp Colegau NPTC eich rhoi ar ben ffordd ar eich taith i lwyddiant. Byddwch yn ennill sgiliau eraill mewn Saesneg, Mathemateg a TG, sgiliau dysgu personol, sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu, a sgiliau gwyrdd, a fydd yn eich gwneud yn weithiwr proffesiynol mwy crwn a chyflogadwy. Mae ein perthynas agos â diwydiant yn sicrhau ein bod yn gyson â’r datblygiadau technolegol diweddaraf, gan roi’r hyfforddiant gorau sydd ar gael i chi.

Beth fydda i’n ei wneud?

Mecanyddol

Mae peirianneg fecanyddol yn cynnwys llawer o lwybrau gwahanol, gan gynnwys dadansoddi, dylunio a gweithgynhyrchu. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn o gysyniadau allweddol. Mae peirianwyr mecanyddol a chynnal a chadw yn defnyddio’r egwyddorion hyn ac eraill wrth ddylunio a dadansoddi cydrannau arbenigol mewn amrywiaeth o sectorau.

Mae ein gweithdai a’n hystafelloedd dosbarth pwrpasol sy’n benodol i’r diwydiant yn gartref i offer a chyfrifiaduron peirianneg o’r radd flaenaf. Mae gweithdai’n cynnwys turnau â llaw, peiriannau melino a meinciau peirianneg, tra bod gweithdai ac ystafelloedd dosbarth arbenigol ar wahân yn cynnwys peiriannau Rheoledig Rhifiadol Cyfrifiadurol (CNC) uwch Haas mewn melino a throi, Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur (CAD), offer electroneg a thechnoleg argraffu 3D. Mae ein gweithdy hydrolig a niwmateg/electro-niwmateg yn gartref i lawer o rigiau profi hanfodol ac mae ein labordy awtomeiddio newydd wedi’i ffitio â phedair rig PLC. Mae’r offer hyn, a ddefnyddir yn helaeth o fewn diwydiant, yn hanfodol i brofi ac asesu gallu a pherfformiad cydrannau ar gyfer defnydd diwydiannol.

Gweithgynhyrchu Uwch

Mae peirianneg fecanyddol a chynnal a chadw yn cynnwys llawer o lwybrau gwahanol, gan gynnwys dadansoddi, dylunio, gweithgynhyrchu a chynnal a chadw systemau mecanyddol. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth gadarn o gysyniadau allweddol fel technolegau sy’n dod i’r amlwg a sgiliau gwyrdd. Mae peirianneg fecanyddol a chynnal a chadw yn defnyddio’r egwyddorion hyn ac eraill wrth ddylunio a dadansoddi cydrannau arbenigol mewn amrywiaeth o sectorau.

Mae ein gweithdai ac ystafelloedd dosbarth pwrpasol sy’n benodol i’r diwydiant yn gartref i offer peirianneg a chyfrifiaduron o’r radd flaenaf. Mae gweithdai’n cynnwys turnau â llaw, peiriannau melino a meinciau peirianneg, tra bod gweithdai arbenigol ac ystafelloedd dosbarth ar wahân yn cynnwys peiriannau Rheoledig Rhifiadol Cyfrifiadurol (CNC) uwch Haas mewn melino a throi, Dylunio â Chymorth Cyfrifiadur (CAD) a thechnoleg argraffu 3D. Mae ein gweithdy hydrolig a niwmateg/electro-niwmateg yn gartref i lawer o rigiau profi hanfodol sy’n hanfodol i brofi ac asesu gallu a pherfformiad cydrannau ar gyfer defnydd diwydiannol.

Ffabrigo a Weldio

Mae’r diwydiant ffafrio a weldio angen pobl fedrus iawn, ac mae yna lawer o gyfleoedd cyflogaeth. Mae cyflogaeth mewn meysydd fel ynni, olew a nwy, peirianneg, cynnal a chadw a gweithgynhyrchu diwydiannol i gyd yn hygyrch gyda chymhwyster yn y ddisgyblaeth hon.

Bydd ein darlithwyr medrus iawn yn eich cefnogi a’ch tywys trwy hanfodion y diwydiant hwn, a byddwch yn dysgu sut mae weldio yn integreiddio i system beirianneg. Mae ein gweithdai gwneuthuriad a weldio pwrpasol ar gyfer y diwydiant yn gartref i offer o ansawdd uchel, sy’n cwmpasu pob agwedd ar gymwysiadau weldio, gan gynnwys Nwy Anadweithiol Metel (MIG), Nwy Anadweithiol Twngsten (TIG), Arc Metel â Llaw (MMA), a Phrofi Dinistriol ac Anninistriol (DT/NDT), gan gynnwys peiriannau plasma CNC.

Cyfleoedd Gyrfa

  • Cysylltiadau cryf â dros 100 o gyflogwyr lleol, rhanbarthol a chenedlaethol
  • Cyfleoedd dilyniant gwych i’r brifysgol a rhaglenni prentisiaeth rhagorol
  • Cyfleusterau peirianneg o’r radd flaenaf
  • Mae cyrsiau’n cydweddu â safonau’r diwydiant i ddiwallu’r sgiliau sydd eu hangen
  • Un o’r sectorau diwydiant mwyaf poblogaidd a thyfu

Atgyweirio Corff Modurol a Cherbydau

Mae dechrau gyrfa mewn mecaneg neu atgyweirio cerbydau yn golygu gwarantu dyfodol o waith cyson. Gall dirwasgiadau yn yr economi effeithio ar bobl yn prynu ceir newydd, ond bydd angen cynnal a chadw ac atgyweirio cerbydau bob amser.

Os ydych chi’n mwynhau cwrdd â gwahanol bobl bob dydd, bod yn ymarferol, gweithio gyda thechnoleg arloesol, neu os oes gennych chi lygad creadigol a chariad at adfer, yna mae gyrfa sy’n gweithio gydag unrhyw gerbyd yn aros amdanoch chi.

Mae dysgwyr yn elwa o gyfleusterau rhagorol, safonol y diwydiant ar draws ein campysau. Mae gan adrannau cerbydau modur ystod eang o lifftiau cerbydau modern, offer profi diagnostig ac offer arbenigol i gefnogi dysgu mewn meysydd mecanyddol, trydanol a diagnostig. Mae cyfleusterau pwrpasol hefyd yn cefnogi’r galw cynyddol am dechnolegau cerbydau trydan a hybrid, gan roi cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu sgiliau gan ddefnyddio’r offer a’r cerbydau diweddaraf.

Mae gweithdai pwrpasol yn cynnwys baeau profi ATL arddull MOT, ardaloedd diagnostig, offer alinio pob olwyn a chyfleusterau glanhau. Mae gweithdai atgyweirio cyrff cerbydau wedi’u cynllunio i fanyleb ddiwydiannol ac yn cynnwys bythau chwistrellu o’r radd flaenaf, ystafelloedd cymysgu paent, bythau adnewyddu olwynion a baeau gwresogi dwyster uchel. Mae’r amgylcheddau hyn yn adlewyrchu amodau gwaith y byd go iawn ac yn paratoi dysgwyr ar gyfer cyflogaeth o fewn y diwydiant moduron.

Mae buddsoddi mewn technolegau newydd yn parhau i wella cyfleoedd dysgu, gan sicrhau bod dysgwyr yn cael profiad gyda cherbydau modern a’u systemau diweddaraf.

Beth fydda i’n ei wneud?

Nod ein cyrsiau yw archwilio adeiladwaith cerbyd a datblygu’r sgiliau sydd eu hangen i atgyweirio namau mecanyddol, systemau trydanol a difrod i gorff cerbydau yn gywir, yn barod i’w gorffen.

Byddwch yn cwblhau cyfres o aseiniadau a thasgau ymarferol a gyflawnir yn ein cyfleusterau rhagorol, gan ddatblygu gwybodaeth dechnegol a gallu ymarferol.

Cyfleoedd Gyrfa

Fel arfer, mae cyflogaeth i fecanegwyr gyda garejys, cwmnïau trafnidiaeth, cwmnïau cludo nwyddau ar y ffordd neu sefydliadau mawr gyda fflydoedd o gerbydau. Ar lefel y technegydd, byddwch yn cyflawni gwaith diagnostig medrus, gan gynnwys gwaith ar systemau electronig a systemau a reolir gan gyfrifiadur. Mae’r gwaith yn heriol ac yn rhesymegol, gan gynnwys lefel uchel o ddatrys problemau.

Mewn cwmnïau mwy, mae’n aml yn bosibl cael dyrchafiad i rolau goruchwylio a rheoli.

Fel arfer, mae gyrfaoedd o fewn atgyweirio ac ail-orffen cyrff cerbydau o fewn garejys, gweithdai corff a’r diwydiant chwaraeon modur sy’n arbenigo mewn atgyweirio cerbydau ar ôl difrod damweiniau. Mae sgiliau o fewn atgyweirio ac ail-orffen cyrff yn amrywio o rannu paneli a weldio MIG i gywiro a glanhau paent.

Cyrsiau
Cyflwyniad i Gynnal a Chadw ac Atgyweirio Modurol (Amser Llawn) - Addysg Bellach
Diploma Lefel 3 mewn Technoleg Peirianneg (Amser Llawn) - Addysg Bellach
Gwneuthuriad a Weldio Lefel 3 (Llawn Amser) - Addysg Bellach
IMI Diploma Lefel 1 mewn Atgyweirio Cerbydau ar ôl Damweiniau (Amser Llawn) - Addysg Bellach
Lefel 1 Peirianneg Fodurol (Amser Llawn) - Addysg Bellach
Lefel 2 Atgyweirio Corff Cerbyd IMI (Corff) (Llawn Amser) - Addysg Bellach
Peirianneg Fodurol Lefel 2 (Amser Llawn) - Addysg Bellach
Peirianneg Fodurol Lefel 3 (Amser Llawn) - Addysg Bellach
Peirianneg Lefel 1 (Amser Llawn) - Addysg Bellach
Perfformio Gweithrediadau Peirianneg / ABC Weldio a Ffabrigo Lefel 2 (Amser Llawn) - Addysg Bellach
Rhaglen Ddysgu Lefel 2 Cynnal a Chadw Uwch (Amser Llawn) - Addysg Bellach
Diploma Cenedlaethol L3 mewn Peirianneg (Rhan-Amser) - Addysg Bellach
Dylunio Peirianneg Ddiwydiannol (Mecanyddol) – BEng (Anrh) (Prentisiaeth Gradd) (Rhan Amser) - Addysg Uwch a Graddau
Gweithrediadau Peirianneg Perfformio Lefel 2 (Rhan-Amser) - Addysg Bellach
HNC Mechanical Engineering (Rhan Amser) - Addysg Uwch a Graddau
HNC Peirianneg Drydanol ac Electronig (Rhan Amser) - Addysg Uwch a Graddau
Sgiliau Uwch mewn Weldio C&G Lefel 3 (Rhan-amser: Noson) - Addysg Bellach
Sgiliau Weldio Rhagarweiniol Lefel 1 (Rhan-amser) - Addysg Bellach
Tystysgrif Lefel 2 Sgiliau Weldio (Rhan-amser: Noson) - Addysg Bellach