Pam Dewis Grŵp o Golegau NPTC
Arolwg Myfyrwyr Dywedoch Chi, Gwnaethom Ni
Mae dros 98% o ddysgwyr yn graddio cyngor coleg, addysgu a chydraddoldeb fel Rhagorol
Yng Ngrŵp Colegau NPTC, rydym yn falch o roi ein dysgwyr yn gyntaf, ac maen nhw wedi siarad yn glir ac yn uchel.
- Mae 98% o fyfyrwyr yn dweud eu bod wedi derbyn cyngor gwych wrth ddewis eu pynciau, gan eu helpu i ddechrau eu taith coleg ar y droed iawn.
- Mae 99% yn teimlo eu bod yn cael eu trin yn gyfartal a chyda pharch, beth bynnag fo’u cefndir neu eu credoau.
- Mae 99.7% yn gwybod yn union beth a ddisgwylir ganddynt o ran ymddygiad, tra bod 99.2% yn deall beth sydd ei angen i lwyddo ar eu cwrs.
- Mae 99.3% yn dweud bod adborth llafar ac ysgrifenedig yn eu helpu i wella, ac mae 99.4% yn gwerthfawrogi’r gefnogaeth academaidd a phersonol a gynigir gan diwtoriaid.
- Mae 99.2% yn cytuno bod eu tiwtoriaid yn eu hymestyn ac yn eu herio i gyrraedd eu potensial llawn.
Mae’r ffigurau eithriadol hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad diysgog i safonau uchel, addysgu cynhwysol, a llwyddiant myfyrwyr. Yng Ngrŵp Colegau NPTC, rydym yn creu amgylchedd lle gall pawb ffynnu, ac mae’r canlyniadau’n siarad drostynt eu hunain.
Nosweithiau Agored
Mae ein nosweithiau agored yn gyfle i ddarpar fyfyrwyr a rhieni brofi’r Coleg a’i gyfleusterau a darganfod mwy am yr amrywiaeth o bynciau a chyrsiau sydd gennym ar gael.
Bydd myfyrwyr a rhieni yn gallu gweld y profiad addysgol y mae Grŵp Colegau NPTC yn ei gynnig, a chael y cyfle i ‘roi cynnig’ ar bynciau neu grefftau penodol. Bydd gennych hefyd y cyfle i ddarganfod bywyd y tu allan i’r ystafell ddosbarth a gweld yr hyn y mae’r Coleg yn ei gynnig o ran gweithgareddau allgyrsiol.
Darllen rhagor o wybodaeth am ddyddiadau sydd ar y gweill yma
Absenoldeb Myfyrwyr
Rhowch wybod am absenoldeb yma
Llawlyfr Myfyrwyr
Cliciwch yma i ddarllen ein Llawlyfr Myfyrwyr
Dyddiadau Tymhorau
Cliciwch yma a ddyffiadau’r tymhorau
Disgyblu Myfyrwyr
Rydym am i bawb fwynhau eu hamser yn y Coleg ac rydym yn disgwyl ymddygiad da gan ein holl fyfyrwyr, gan gynnwys dangos parch at eraill.
Mae’r Cod Ymddygiad Myfyriwr yn esbonio ein rheoliadau a’n rheolau allweddol.
Dylai myfyrwyr ymgyfarwyddo â’r Polisi hwn sydd ar gael ar Moodle.
Mae gennym Weithdrefn Ddisgyblu Myfyrwyr ffurfiol. Bydd staff yn gwneud myfyrwyr yn ymwybodol o unrhyw faterion o bryder. Fel arfer mae gan fyfyrwyr hawl i fynd drwy bob cam o’r Weithdrefn Ddisgyblu Myfyrwyr (heblaw am droseddau difrifol). Fodd bynnag, efallai y bydd adegau pan mae natur yr ymddygiad yn arwain at rybudd ysgrifenedig neu waharddiad hyd yn oed os mai dyma’r tro cyntaf y mae ymddygiad o’r fath wedi digwydd.
Ceir 4 cam i’r weithdrefn ddisgyblu myfyrwyr fel arfer:
- Rhybudd llafar
- Rhybudd ysgrifenedig
- Cam 3 – Rhybudd Ysgrifenedig Terfynol
- Cam 4 – Camymddwyn Difrifol yn Arwain at Waharddiad
Lle y bo’n briodol, byddwn yn eich cynnwys yn y Broses Ddisgyblu; Bydd hyn fel arfer ynghylch sefyllfaoedd lle y gwelir problemau ymddygiadol sy’n digwydd yn aml a/neu ddigwyddiadau difrifol.
Cyfrifoldeb y coleg i roi gwybodaeth i rieni, gwarcheidwaid neu ofalwyr
Er mwyn cydymffurfio â’r Ddeddf Diogelu Data, mae’r Coleg wedi’i gyfyngu o ran pryd y gall rannu data: Dim ond pan fydd y myfyriwr o dan 18 oed a chi yw eu cyswllt brys ar ein system neu pan fydd y myfyriwr dros 18 oed y gellir rhannu data â thrydydd parti. ac wedi rhoi caniatâd i’w ddata gael ei rannu â chyswllt a enwir.
Cliciwch yma am fanylion cyswllt y coleg