Ymrestru 2024 – Yn Dod Yn Fuan

Ymunwch â ni ym mis Medi eleni, mae gennym ni #Dewisiadau addysg amser llawn, rhan-amser ac addysg uwch ac mae 95% o’n myfyrwyr presennol yn ein hargymell!*

(*Arolwg Boddhad Myfyrwyr 2023)

Os nad ydych wedi gwneud cais neu gofrestru gyda ni eto, neu os ydych yn ansicr ac angen cyngor ac arweiniad, gallwn helpu!

Edrychwch ar ein canllaw fideo defnyddiol i gael trosolwg o’r broses ymrestru; mae’n gyflym ac yn hawdd!

Sicrhewch eich bod yn cwblhau eich cofrestriad cyn dod i’r campws i ymrestru gan y bydd hyn yn sicrhau bod y broses yn gyflym ac yn hawdd ar y diwrnod.

Bydd angen:

  • ID (un o’r canlynol – pasbort, cerdyn banc, trwydded yrru, tystysgrif geni, neu lythyr yswiriant gwladol)
  • Canlyniadau TGAU neu dystysgrifau cymhwyster eraill (cafwyd ym mis Awst a chyflawnwyd yn gynharach)
  • Eich Rhif Yswiriant Gwladol (os oes gennych un)

Bydd angen i chi hefyd wneud taliad ffi weinyddol o £25 i gwblhau eich ymrestriad. Gallwch wneud y taliad hwn trwy fewngofnodi yn ôl i’ch cyfrif Hyb Dysgwyr a dewis ‘Fy Nhaliad‘ o’r ddewislen. Gallwch hefyd dalu dros y ffôn drwy ffonio ein tîm Cyllid ar 0330 818 8030.

Nid oes angen dod â llun gyda chi, byddwn yn tynnu eich llun ar gyfer eich llinyn cortyn coleg.

Os nad yw eich graddau yr hyn yr oeddech yn ei ddisgwyl, peidiwch â phoeni; bydd ein tîm arweiniad wrth law i’ch helpu i ddod o hyd i gwrs sy’n addas i chi.

Cyn i chi ymrestru, edrychwch ar ein Parth Myfyrwyr i gael gwybodaeth am ymuno â choleg, cyllid, cyfleusterau, cludiant a chymorth i fyfyrwyr.

Pam Dewis Grŵp Colegau NPTC?

  • Bron i 40 o bynciau Lefel A* gwahanol, ynghyd ag amrywiaeth enfawr o gyrsiau a phrentisiaethau ymarferol amser llawn sy’n canolbwyntio ar yrfa i ddewis ohonynt.
  • Amrywiaeth eang o gyrsiau rhan-amser neu fyr yn ystod y dydd, gyda’r nos neu ar y penwythnos i gyd-fynd â’ch gwaith a’ch ffordd o fyw. Felly gallwch chi ddechrau’r hobi newydd hwnnw, ennill sgiliau i symud ymlaen yn y gwaith neu gael cymwysterau i ddechrau gyrfa newydd. Mae llawer o’n cyrsiau byr yn cael eu hariannu’n rhannol neu’n llawn**
  • Nifer o raglenni gradd eang eu hystod, mewn partneriaeth ag ystod o sefydliadau Addysg Uwch mawreddog wedi’u cynllunio gyda’ch cyflogaeth a’ch gyrfaoedd yn y dyfodol mewn golwg.
  • Brecwast a ffrwythau am ddim bob dydd.
  • Bwrsariaethau ac ysgoloriaethau academaidd, chwaraeon a diwylliannol.
  • Cymorth ariannol, gan gynnwys £40 yr wythnos o LCA (Lwfans Cynhaliaeth Addysg) i fyfyrwyr cymwys.
  • Gostyngiadau a buddion myfyrwyr.
  • Lles arbenigol a chymorth dysgu.
  • Cyfleusterau sydd wedi ennill gwobrau.
  • Meddylfryd ymestyn a thwf VESPA (Gweledigaeth, Ymdrech, Agwedd Arfer Systemau).
  • Darlithwyr arbenigol gyda chyfoeth o wybodaeth am y diwydiant a chysylltiadau cadarn â chyflogwyr lleol.
  • Gweithgareddau allgyrsiol gan gynnwys academïau creadigol, chwaraeon ac e-chwaraeon a chystadlaethau sgiliau.
  • Cyngor ac arweiniad gyrfa a chyflogaeth.
  • Cyfleoedd interniaeth a phrentisiaeth.

* Safon Uwch ar gael yng Ngholeg Castell-nedd
** Yn amodol ar gymhwysedd

Darganfyddwch ein Cyrsiau

Cyrsiau amswer llawn

Cyrsiau rhan-amser

Cyrsiau lefel prifysgol

Prentisiaethau

Cadwch mewn Cysylltiad

Os oes angen i chi gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau, e-bostiwch admissions@nptcgroup.ac.uk neu ffoniwch 0330 818 8100.

Gallwch hefyd hoffi a dilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf neu gysylltu â ni.