Mae pob myfyriwr yng Ngrŵp Colegau NPTC yn bwysig i ni ac rydyn ni’n mynd yr ail filltir i sicrhau bod yr amser rydych chi’n ei dreulio yn y Coleg yn gynhyrchiol ac yn bleserus.
Mae’r Parth Myfyrwyr yn lle y gall pob myfyriwr dderbyn cymorth, cyngor a chefnogaeth am ddim mewn amgylchedd hamddenol, croesawgar a chyfrinachol. Mae ein tîm proffesiynol a chyfeillgar yn darparu cefnogaeth arbenigol mewn ystod o feysydd, gan gynnwys;
- Y broses ymgeisio a derbyn
- Ymrestru a chynefino
- Cyllid Myfyrwyr – CAG, LCA, GDLlC a Cyllid Myfyrwyr Cymru i fyfyrwyr AU
- Cyngor Gyrfaoedd
- Cymorth astudio
- Angehnion Dysgu Ychwanegol(ALN) a Chymorth gydag anableddau
- Trosglwyddo o’r ysgol i’r coleg, neu o’r coleg i’r brifysgol
- Cwnsela
- Cadw’n Ddiogel (Diogelu)
- Mentora ac UCAS
- Cefnogaeth LGBTQ
A llawer mwy! Cliciwch ar un o’r teils isod i ddechrau neu cysylltwch â ni yn studentsupport@nptcgroup.ac.uk