Neges gan y Prif Swyddog Gweithredol…

Croeso cynnes i’r holl Fyfyrwyr Rhyngwladol sy’n dymuno mynychu Grŵp Colegau NPTC. Rwy’n falch eich bod yn ystyried astudio yn y DU. Rwy’n gobeithio y bydd y canllaw hwn i’r Coleg yn rhoi blas i chi o’r hyn sydd ar gael.

Mae gennym ddyheadau uchel iawn i’n holl fyfyrwyr ac rydym wedi adeiladu ein henw da ar ein canlyniadau rhagorol flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae gennym hanes aruthrol ac wrth inni ddathlu’r gorffennol rydym hefyd yn edrych i’r dyfodol gyda rhai prosiectau cyffrous ar y gweill.

Wrth i Grŵp Colegau NPTC barhau i fynd o nerth i nerth, ni fu erioed amser gwell i astudio gyda ni. Nid yn unig mae gennym ystod eang o gyrsiau ar gyfer Myfyrwyr Rhyngwladol ar ein Campws ym Mae Abertawe, ond rydym hefyd wedi parhau i fuddsoddi, yn llythrennol, filiynau o bunnoedd yn yr adnoddau a’r cyfleusterau gorau oll sydd ar gael i’n holl fyfyrwyr. Rydym yn ymwybodol iawn bod prifysgolion a chyflogwyr nid yn unig â diddordeb mewn cyflawniad academaidd mewn cymdeithas fyd-eang ond eu bod hefyd yn chwilio am bobl sydd, trwy gydol eu hamser mewn addysg, wedi ymgymryd â gweithgareddau sydd wedi mynd â nhw y tu hwnt i’w hastudiaethau beunyddiol. Fel Coleg mawr sydd â rhagolwg byd-eang, rydym yn gallu darparu profiad o’r radd flaenaf i chi.

Rydym yn deall bod dewis y coleg iawn yn y DU yn benderfyniad mawr i chi a’ch teulu. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i Grŵp Colegau NPTC.

Cofiwch, gallwn gynnig i chi:

  • Canlyniadau Arholiad Eithriadol *
  • Cymorth eithriadol ychwanegol ‘rhad ac am ddim’ yn yr iaith Saesneg ynghyd â chefnogaeth academaidd a bugeiliol. Mae cefnogaeth ddawnus a thalentog ar gael i fyfyrwyr rhyngwladol.
  • Lle gwych, diogel a rhad i fyw ac astudio ochr yn ochr â myfyrwyr a theuluoedd y DU.
  • Cyfleusterau dysgu rhagorol gydag adnoddau o’r radd flaenaf
  • Coleg y Wladwriaeth a sefydlwyd ym 1931 gydag anrhydeddau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol.

Dyna pam rydyn ni’n dweud mai Grŵp Colegau NPTC yw: ‘mwy nag addysg yn unig’.

Mark Dacey (Prif Swyddog Gweithredol)