Gwnewch gais nawr i warantu eich lle ar gyfer mis Medi!
Croeso i’r system ymgeisio ar-lein yma yng Ngrŵp Colegau NPTC, gyda chefnogaeth y tîm Derbyniadau.
Mae gennych y pŵer i reoli pob cam o’ch taith, o ymchwilio i gyrsiau sydd o ddiddordeb i chi i lenwi’r ffurflen gais a dewis dyddiadau cyfweliad.
Gallwch hefyd fewngofnodi i’ch cyfrif ar unrhyw adeg i weld ble rydych chi yn y broses.
Cwrs Cywir, Dewis Cywir!
Gyda chymaint o ddewisiadau ar gael, rydym yn deall y gall gwneud penderfyniad fod yn anodd. Rydym yma i’ch cefnogi trwy’r broses, boed yn Lefelau A, cyrsiau galwedigaethol, dysgu rhan-amser neu brentisiaeth!
Gwnewch gais, archebwch a mynychwch eich cyfweliad ar-lein trwy ddilyn y canllaw syml hwn.
1. Dewiswch eich pwnc neu gwrs
Beth bynnag rydych chi’n chwilio amdano, mae gennym ni rywbeth i bawb. Poriwch ein cyrsiau i ddod o hyd i’r un sy’n iawn i chi.
Edrychwch ar ein cyrsiau Amser Llawn
2. Ymgeisio
Ar ôl i chi ddewis eich cwrs neu bwnc, cliciwch ar y botwm gwyrdd ‘Gwneud Cais Nawr‘ o dan y lleoliad astudio o ddewis. Os ydych chi’n gwneud cais am Lefel A, dim ond un Lefel A sydd angen i chi ei wneud; byddwch chi’n ychwanegu eraill ar y ffurflen gais.
Ymgeiswyr Tro Cyntaf
- Crewch gyfrif Hwb Dysgwyr gan ddefnyddio’ch e-bost.
- Eich enw defnyddiwr yw’r rhan o’ch e-bost cyn yr ‘@’.
- Mae angen i gyfrineiriau fod o leiaf 9 nod, gydag un llythyren fawr, un llythyren fach ac un rhif.
- Byddwch chi’n gallu cadw a dychwelyd i’ch cais tra ei fod ar y gweill.
- Cael cymorth dros y ffôn, cyfryngau cymdeithasol neu e-bost: admissions@nptcgroup.ac.uk
Prentisiaethau
Os oes gennych ddiddordeb mewn prentisiaeth, cysylltwch â Pathways Training yn: pathwaystraining@nptcgroup.ac.uk Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn.
3. Cyfweliad
Ar ôl i chi gwblhau eich cais, byddwch chi’n gallu archebu cyfweliad. Bydd ein cyfweliadau ar y campws ac wyneb yn wyneb â’n tiwtoriaid.
Dyma gyfle i chi a’ch rhieni/gwarcheidwaid ddysgu mwy am y Coleg a’ch pynciau.
Yn ystod eich cyfweliad anffurfiol, byddwch yn trafod y cwrs a’r gofynion mynediad. Os yw’n addas, byddwch yn derbyn cynnig amodol yn eich cyfrif Hwb Dysgwyr.
Fel arfer, mae cyfweliadau’n dod i ben ddiwedd mis Mehefin bob blwyddyn. Os nad ydych wedi cael eich cyfweliad cyn hyn, peidiwch â phoeni. Yn lle hynny, byddwch yn cael gwahoddiad i fynychu’r coleg yn ystod ymrestru, lle gallwch drafod eich cwrs gyda’n tiwtoriaid.
Byddwch yn derbyn llythyr yn cadarnhau eich apwyntiad ymrestru, a gallwch hefyd fewngofnodi i’ch cyfrif Hwb Dysgwyr i wirio’r manylion.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y broses gyfweld, cysylltwch ag admissions@nptcgroup.ac.uk
Angen dychwelyd i’ch cais? Cliciwch ar y ddelwedd isod.
Gallwch wneud newidiadau i’ch cais, fel dewis cwrs a manylion cyswllt, tra ei fod ar y gweill. Mewngofnodwch yn ôl i’r Hwb Dysgwyr unrhyw bryd a chliciwch ar y ddolen “FY NGHAIS” yn y ddewislen. Bydd y dudalen hon yn dangos cynnydd eich cais.
Hwb Dysgwyr Cysylltiedig
Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw hi i chi aros mewn cysylltiad ag addysg eich plentyn. Dyna pam rydym wedi creu’r Hwb Dysgwyr Cysylltiedig – ffordd syml a diogel o olrhain eu taith ymgeisio cyn iddynt ddechrau yn y coleg a chadw i fyny â’u cyflawniadau ar ôl iddynt ddechrau eu hastudiaethau.
Parth Myfyrwyr
Peidiwch ag anghofio ymweld â’n Parth Myfyrwyr, lle byddwch yn gallu dod o hyd i hyd yn oed mwy o wybodaeth am ymuno â’r Coleg.
4. Ymrestru
Byddwn yn ymrestru ar y campws ddiwedd mis Awst. Yn gyntaf, byddwn yn anfon llythyr apwyntiad ymrestru atoch i ddod i’r campws i ymrestru. Yna, pythefnos cyn ymrestru, byddwn yn anfon e-bost atoch i gofrestru. Cliciwch ar y ddolen i wirio’ch manylion ac ateb ychydig mwy o gwestiynau. Yna byddwch yn cael eich apwyntiad ymrestru gydag un o’n tiwtoriaid i gael cyngor ac arweiniad cyn cael eich ymrestru.
5. Canlyniadau Arholiadau
Pan fyddwch yn derbyn cynnig amodol, mae hynny’n golygu bod angen i chi gael y canlyniadau a restrir yn y gofynion mynediad. Os nad ydych wedi cyflawni’r graddau arholiad/asesiad a ddymunir, peidiwch â phoeni; Bydd staff ar gael yn ystod y cyfnod ymrestru i roi cyngor ac arweiniad ynghylch newidiadau posibl i’ch cwrs gwreiddiol. Os ydych chi wedi cyflawni’r graddau angenrheidiol ond hoffech chi newid eich dewis cwrs gwreiddiol, gallwch chi hefyd wneud hyn yn ystod y cyfnod ymrestru.
6. Cadwch mewn cysylltiad
Peidiwch ag anghofio, gallwch chi newid eich dewis o gwrs ar unrhyw adeg, hyd at y cyfnod ymrestru!
Byddwn ni’n cadw mewn cysylltiad â chi drwy e-bost drwy gydol y broses ymgeisio.
Os oes angen i chi gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost at admissions@nptcgroup.ac.uk
Gallwch hefyd ein hoffi a’n dilyn ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y wybodaeth ddiweddaraf, neu gysylltu â ni.





