Dal i geisio gweithio allan a yw prentisiaeth ar eich cyfer chi?

Ydych chi’n dal i feddwl tybed ai prentisiaeth yw’r dewis iawn i chi? Gwyliwch y fideos hyn gan gyn-brentisiaid a darganfod eu profiadauh.

Dysgwch am y bartneriaeth hirsefydlog rhwng Pathways Training a Chyngor Castell-nedd Port Talbot.

 

Gwyliwch stori Morgan. Mae Morgan yn Brentis Weldio sy’n gwneud ei hyfforddiant gweithle yn E.G Lewis Group (Skelton Thomas Engineering).

 

Gwyliwch stori Zoe. Mae Zoe yn gyn-brentis Pathways Training sy’n gweithio fel Arweinydd Ystafell yn Little Steps Childcare ac enillodd Prentis y Flwyddyn yng Ngwobrau Partneriaeth Academi Sgiliau Cymru.

 

Gwyliwch Stori Tegan. Mae Tegan yn fyfyriwr Peirianneg Lefel 2 a symudodd ymlaen i brentisiaeth gyda Pathways Training. Mae hi’n angerddol am fwy o fenywod yn dod yn brentisiaid yn y sector peirianneg.

 

Darganfyddwch sut mae prentisiaid ym Mhowys yn dysgu gan y goreuon gan ein bod wedi ymuno ag EvaBuild i ddatblygu gweithwyr adeiladu ar gyfer y dyfodol.