Gwybodaeth Gyffredinol
Mae Canolfan y Celfyddydau Nidum wedi’i lleoli ar Goleg Castell-nedd, ac mae’n cynnwys theatr bwrpasol gydag awditoriwm â 168 o seddi a dwy stiwdio ‘blwch du’ amlbwrpas. Mae nodweddion eraill yn cynnwys sgrîn sinema a thaflunydd, goleuadau ac offer sain o safon uchel a thŵr crog gydag offer hedfan.
Y Theatr
Gyda seddi codadwy a llwyfan y gellir ei dynnu, gellir trosglwyddo’r brif theatr yn rhwydd o leoliad bwa prosceniwm traddodiadol â seddi gosod yn fan agored amlbwrpas, sy’n ddelfrydol ar gyfer digwyddiadau megis recordiadau teledu, cerddoriaeth fyw gan berfformwyr ar eu sefyll a theatr gylch.
Y Stiwdios
Mae gan y ddwy stiwdio blwch du amlbwrpas wahanfur symudol sy’n ein galluogi i gynnig y dewis o un ystafell fawr, llenni duon symudol a ffenestr wydr hardd o’r llawr i’r nenfwd ar un ochr, sy’n darparu man modern helaeth â golau naturiol. Mae gan y stiwdios system oleuo hefyd gyda system sain fach a llawr dawns crog sy’n eu gwneud yn ddelfrydol ar gyfer cynyrchiadau llai ar ffurf digwyddiadau dawns, drama neu gerddoriaeth.
Fel cyfleuster blaenllaw ar gyfer addysg yn Ne Cymru, mae Canolfan y Celfyddydau Nidum yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer myfyrwyr drama, dawns, theatr gerdd a pherfformio cerddoriaeth. Mae’r adran Celfyddydau Creadigol, Gweledol a Pherfformio yn llwyfannu sioeau’n rheolaidd yn y Ganolfan Gelf, ac mae hefyd yn defnyddio’r lle i arddangos gweithiau celf a dylunio, yn ogystal â ffotograffiaeth a gweithiau amlgyfrwng.
Defnyddir y ganolfan yn rheolaidd hefyd gan ein cwmnïau cysylltiol a chan logwyr allanol gan gynnwys Ovation Musical Theatre Company, Tan Dance a Lift Dance Company, Cymdeithas Operatig Amatur Castell-nedd, cwmni theatr gerdd KITE a llawer o grwpiau a chwmnïau lleol a chenedlaethol.
Mae’r Ganolfan Gelf hefyd yn darparu ar gyfer nifer o grwpiau cymunedol ym myd y celfyddydau gan gynnwys UCAN Productions a Dawns Cymru.
Mae’r Ganolfan Gelf ar gael i’w llogi’n fasnachol am gyfraddau cystadleuol iawn pan nad yw’n cael ei defnyddio i gefnogi’r cwricwlwm, ac mae’n gallu cynnig gwasanaeth unigryw a chyfeillgar gan ei staff cwbl hyfforddedig, o berfformiadau ac arddangosfeydd i brosiectau addysg a chymunedol.
A hithau wedi’i lleoli lai na 2 filltir o’r M4 (C43) neu lai na milltir o’r A465 Ffordd Blaenau’r Cymoedd, mae Canolfan y Celfyddydau Nidum yn lleoliad anhygoel o hygyrch ac mae ar gael ar gyfer digwyddiadau megis:
- Perfformiadau theatr
- Sioeau Dawns
- Digwyddiadau cerddoriaeth fyw
- Gweithdai/Dosbarthiadau meistr
- Cynadleddau
- Seremonïau Cyflwyno Tystysgrifau
- Arddangosfeydd
- Dangosiadau Ffilm/y Cyfryngau
I gael rhagor o wybodaeth ac i wirio argaeledd, cysylltwch â Rheolwr y Theatr: Ffôn: 0330 818 8300
Am wybodaeth ac ymholiadau cyffredinol:
E-bost: nidum@nptcgroup.ac.uk
CYFARWYDDIADAU
O’r M4
- Yng nghyffordd 43, ewch ar yr A465 i gyfeiriad Castell-nedd/Merthyr Tudful
- Gadewch y cylchfan ar hyd y 3edd ffordd allan, sef yr A465 i gyfeiriad Castell-nedd/Merthyr Tudful/Mynachlog Nedd
- Ymunwch â’r A474 tuag at Gastell-nedd/Pontardawe
- Gadewch y cylchfan ar hyd y ffordd 1af allan, sef yr A474
- Gadewch y cylchfan ar hyd y 3edd ffordd allan, sef Heol Mynachlog Nedd/A474
- Trowch i’r chwith yn Heol Dŵr-y-Felin (goleuadau traffig)
- Trowch i’r dde ar ôl y poncyn arafu cyntaf a chyn yr ail i mewn i faes parcio’r coleg
- Dilynwch y ffordd o gwmpas a phen y daith yw’r adeilad â thu blaen gwydr yn union o’ch blaen
- Os oes angen i chi fynd i gael pas ymwelydd daliwch i fynd i fyny Heol Dŵr-y-Felin i ddechrau ac ewch i’r brif dderbynfa ar y chwith. Efallai y bydd yn haws parcio wrth y Ganolfan Gelf i ddechrau ac yna cerdded i fyny.
Gorsaf Reilffordd Castell-nedd
- Ewch allan trwy brif ddrysau’r orsaf nes eich bod ar y stryd a throwch i’r chwith i lawr The Parade
- Dilynwch The Parade nes eich bod ar Croft Road ac wedi cyrraedd y bont reilffordd ar yr ochr chwith
- Trowch i’r chwith i mewn i Bridge Street ac ewch o dan y bont reilffordd
- Dilynwch y ffordd yn syth o’ch blaen nes ei bod yn troi’n bont cerddwyr sy’n croesi’r afon a ffordd yr A465
- Wrth i chi ddynesu at ben draw’r bont Canolfan Gelf Nidum yw’r adeilad â thu blaen gwydr o’ch blaen
- Gadewch y bont trwy fynd i lawr y grisiau i’r chwith ac ewch ar gampws y coleg trwy’r gât cerddwyr sydd yn syth ar y dde
- Cerddwch ar draws y coleg tuag at y prif ddrysau yn nhu blaen yr adeilad
Gorsaf Fysiau Castell-nedd
- A chithau’n wynebu i ffwrdd oddi wrth y derfynfa fysiau, trowch i’r dde ar Orchard Street a dilynwch y ffordd heibio Neuadd Gwyn
- Daliwch i fynd dros y groesffordd trwy’r ardal i gerddwyr yng nghanol y dref tuag at Angel Square
- Yn Angel square o flaen archfarchnad Morrisons cadwch i’r chwith a chroeswch y ffordd gan ddefnyddio’r groesfan cerddwyr ac ewch o dan y bont reilffordd
- Dilynwch y ffordd yn syth o’ch blaen nes ei bod yn troi’n bont cerddwyr sy’n croesi’r afon a ffordd yr A465
- Wrth i chi ddynesu at ben draw’r bont Canolfan Gelf Nidum yw’r adeilad â thu blaen gwydr o’ch blaen
- Gadewch y bont trwy fynd i lawr y grisiau i’r chwith ac ewch ar gampws y coleg trwy’r gât cerddwyr sydd yn syth ar y dde
- Cerddwch ar draws y coleg tuag at y prif ddrysau yn nhu blaen yr adeilad