CYLLID MYFYRWYR
Darganfyddwch am gyllid ac opsiynau ariannu, gan gynnwys Lwfans Cynhaliaeth Addysg (LCA), Grant Dysgu Llywodraeth Cymru (GDLLC) a Chronfa Ariannol Wrth Gefn (CAWG).
Lawrlwythwch ein taflen Dewch i Siarad Arian
Mae myfyrwyr naill ai’n prynu tocyn bws drwy’r Ap First Bus neu os ydynt yn derbyn cyllid (EMA/WGLG neu gronfa caledi), bydd Cymorth i Fyfyrwyr yn darparu cod am ddim i’w roi ar yr ap, i gael tocyn bws tymhorol am ddim. Mae Cymorth i Fyfyrwyr yn cyhoeddi’r rhain ar ddechrau’r tymor.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â studentsupport@nptcgroup.ac.uk
Mae’n bosibl y bydd angen defnyddio bysiau gwasanaeth mewn rhai achosion os nad yw bws pwrpasol y coleg yn mynd heibio lle mae myfyriwr yn byw. Mae tocynnau bws First Cymru yn gweithio ar bob bws, boed yn un coleg neu beidio a hefyd yn gweithio ar fysiau South Wales Transport (oherwydd cytundeb lleol sydd ar waith rhwng South Wales Transport a First Cymru).
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllaw Dewch i Siarad Arian
Llwybrau Trafnidiaeth – Coleg Castell-nedd, Coleg Afan, Academi Chwaraeon Llandarcy, Coleg Pontardawe, Canolfan Adeiladu Abertawe, Canolfan Adeiladu Maesteg.
Mae yna fysiau coleg pwrpasol sy’n dechrau gyda’r rhifau 90, dim ond unwaith y dydd y mae’r bysiau hyn yn rhedeg, gan fynd â myfyrwyr i’r campysau perthnasol yn y bore a chodi myfyrwyr yn hwyr yn y prynhawn.
Heol Dŵr-y-Felin, Castellnedd, SA10 7RF
900 – Gorsaf Fysiau Port Talbot i Goleg Castell-nedd (Ffordd Rufeinig: Heol Abaty Castell-nedd, tua 2 funud ar droed i’r Coleg) – Un ffordd yn unig.
901 – Pontrhydyfen i Goleg Castell-nedd (Heol Abaty Castell-nedd, ger y Bont Werdd, Tua 2 funud ar droed i’r Coleg) – Un ffordd yn unig.
902 – Pontrhydyfen i Goleg Castell-nedd (Heol Abaty Castell-nedd, ger y Bont Werdd, Tua 2 funud o gerdded i’r Coleg) – Un ffordd yn unig.
903 – Abercraf i Goleg Castell-nedd (Heol Abaty Castell-nedd, ger y Bont Werdd, Tua 2 funud ar droed i’r Coleg) – Y ddwy ffordd.
905 – Cwmtwrch i Goleg Castell-nedd (Heol Abaty Castell-nedd, ger y Bont Werdd, Tua 2 funud ar droed i’r Coleg) – Y ddwy ffordd.
906 – Min-yr-Awel i Goleg Castell-nedd (Heol Abaty Castell-nedd, ger y Bont Werdd, tua 2 funud ar droed i’r Coleg) – Y ddwy ffordd.
907 – Coelbren i Goleg Castell-nedd (Heol Abaty Castell-nedd, ger y Bont Werdd, Tua 2 funud ar droed i’r Coleg) – Y ddwy ffordd.
908 – Croeserw i Goleg Castell-nedd (Ffordd Rufeinig: Heol Abaty Castell-nedd, tua 2 funud ar droed i’r Coleg) – Y ddwy ffordd.
56 – Coleg Pontardawe (Stopio yn Jiwbilî, rownd y gornel o’r Coleg) i Goleg Castell-nedd (aros y tu allan i’r bloc A/B) – Y ddwy ffordd.
Ffordd Bertha, Margam, SA13 2AL
909 – Coleg Castell-nedd (Ffordd Rufeinig: Heol Abaty Castell-nedd) i Goleg Afan – Y ddwy ffordd.
Alloy Industrial Estate, Pontardawe, SA8 4EN
903 – Abercraf to Pontardawe College (Stops at Post Office on Stryd Fawr, 2 minutes walk to the College) – Both ways.
905 – Cwmtwrch to Pontardawe College (Stops at Post Office on Stryd Fawr, 2 minutes walk to the College) – Both ways.
56 – Neath College (outside A/B block) to Pontardawe College (stops at Jubilee, approx. 2 minutes walk to the College) – Both ways.
Parc Llandarcy, Castellnedd, SA10 6JD
Gwasanaeth Llandarsi – Ffordd Rufeinig: Heol Abaty Castell-nedd i Goleg Llandarsi – Yn gadael Castell-nedd am 9:00am i Landarcy ac yn codi yn Llandarcy am 16:10pm
Nid oes gan Abertawe a Maesteg fysiau Coleg, rhaid defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus. Defnyddiwch y gwiriwr cod post ar wefan First Cymru i ddod o hyd i’r llwybr mwyaf cywir o’ch cyfeiriad cartref.
Gall amseroedd newid. First Cymru sy’n darparu’r gwasanaeth.
Mae cymysgedd o fysiau coleg yn unig a bysus cyhoeddus a rennir i’n myfyrwyr eu defnyddio. Mae gan rai bysiau Coleg yn unig gysylltiadau â bysiau a rennir cyhoeddus. Cliciwch yma i weld canllaw cyflawn o fysiau a fydd yn mynd â chi i’n campysau yn Aberhonddu a’r Drenewydd.
Gall amseroedd newid. Cyngor Sir Powys ac is-gwmnïau eraill sy’n darparu’r gwasanaeth.
Mae lleoedd parcio cyfyngedig ar gael ar bob campws yn rhad ac am ddim.
Cymerwch bob gofal a sylw rhesymol i:
- Gwyliwch eich cyflymder.
- Peidiwch â pharcio’n uniongyrchol y tu allan i gartrefi preswylwyr.
- Cadwch lefelau sŵn mor isel â phosibl.
- Cofiwch fod y Coleg bob amser yn anelu at fod yn gymydog da o fewn y gymuned.
- Sylwch y gall parcio anghywir ar ffordd gyhoeddus eich erlyn.
Rhaid i bob gyrrwr gydymffurfio â’r cyfyngiadau gyrru a pharcio sydd ar waith o fewn/o amgylch y campysau.
Nid yw Grŵp Colegau NPTC yn derbyn cyfrifoldeb am gerbydau na’u cynnwys. Mae pob cerbyd yn cael ei barcio ar risg y perchennog.